Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl
Dinas logo



Clawr | Cover
Cunval's Mission
David Hancocks
Manylion llawn

£5.95   Ewch | Go


Cadw mewn print

Fel y nodwyd yn gynharach, bydd gan yr awdur ddau ddewis pan ddaw'r Cytundeb Cyhoeddi cychwynnol i ben wedi dwy flynedd. Rydym, yn naturiol, yn gobeithio y bydd yr awdur am barhau i gyhoeddi gyda Dinas a'n dymuniad ni fyddai parhau i gefnogi'r llyfr. Ar y llaw arall. . .

Efallai y bydd yr awdur wedi bod yn lwcus iawn, ac wedi cael sylw da i'r llyfr yn y cyfryngau, ac wedi derbyn cynnig deniadol gan wasg arall i gyhoeddi'r llyfr yma neu un arall. Bydd yr awdur yn rhydd i dderbyn unrhyw gynnig o'r fath. Os digwydd hyn, bydd am dorri'r cysylltiad a Dinas - neu efallai y bydd ganddo reswm arall dros wneud hynny. Bydd yr awdur wedyn yn rhydd i atafaelu unrhyw stoc lyfrau o warws Y Lolfa ac yn naturiol fe ddileir unrhyw gyfeiriad at y llyfr yn rhestrau a chatalogau Dinas a'r Lolfa.

Os bydd yr awdur am barhau i gyhoeddi gyda Dinas, fe lunir Cytundeb Cyhoeddi newydd sbon, a fydd yn debyg iawn i gytundeb arferol Y Lolfa. Ni fydd yna addewid pendant i ailargraffu, er y bydd y cyhoeddwyr yn awyddus i wneud hynny os bydd y llyfr yn parhau i werthu. Ond os bydd y llyfr allan o brint am gyfnod o amser, bydd yr awdur wedyn yn rhydd i derfynu'r cytundeb.

Beth bynnag fydd dewis yr awdur, bydd Y Lolfa'n parhau i anfon unrhyw arian dyledus ato, er enghraifft unrhyw daliadau hawlfraint yn deillio o'r argraffiad cyntaf.

I orffen. . .
Mae rhai wedi gofyn i ni - pam y gair "Dinas"? Na, nid Caerdydd yw'r ystyr, ond Dinas Gymreig! Y mae'n hen air sy'n tarddu o'r Lladin gan olygu "caer" yn wreiddiol. Efallai y gwyddoch am yr ymadrodd Beiblaidd, "dinas barhaus". Beth bynnag, mawr obeithiwn y bydd Dinas yn medru cynnig cartref diogel i'ch gwaith - ac y bydd y gwaith yn ei dro yn cyfoethogi bywyd y Ddinas eang sef yw Cymru!