Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl
Dinas logo



Clawr | Cover
On the other hand
Jean Gill
Manylion llawn

£5.95  

Ewch | Go


Cyflwyniad

Croeso i Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa! Ond pam? Beth all Dinas ei gyflawni, na all Y Lolfa ddim?

Pwrpas Dinas, yn syml iawn, yw cyhoeddi llyfrau nad ydynt, am wahanol resymau, yn debyg o ddenu grant gyhoeddi. Yn lle nawdd gan gorff cyhoeddus, yr awdur ei hunan fydd yn cyfrannu cyfran o'r costau cynhyrchu. Ond a oes angen Dinas? Onid yw'r rhan fwyaf o lyfrau Cymraeg yn cael grantiau yn weddol rwydd?

Rhaid cyfaddef ei fod yn haws, ar y cyfan, i gyhoeddi llyfr Cymraeg nag un Saesneg. Y rheswm yw bod y Cyngor Llyfrau yn cefnogi llyfrau "poblogaidd" yn Gymraeg yn unig, tra bod Cyngor y Celfyddydau yn cefnogi dim ond llyfrau "llenyddol" (yn Gymraeg a Saesneg). Ond gwyddom, o hir brofiad, bod yna lyfrau teiwlng sy'n cael eu gwrthod. Mae'r Cyngor Llyfrau yn gyndyn i gefnodi llyfrau lleol, er enghraifft. Weithiau gwrthodir llyfrau ar sail ieithwedd neu "chwaeth". Ac y mae yna lyfrau sy'n rhy "boblogaidd" i Cyngor y Celfyddydau, ond yn rhy "lenyddol" i'r Cyngor Llyfrau!

Un o'r problemau yw bod y drefn yn dibynnu ar farn darllenwyr cudd y Cyngor Llyfrau a Chyngor y Celfyddydau. Mae'r Lolfa wedi dadlau'n gyson dros adroddiadau agored. Os oes yna anghytundeb - er enghraifft, ynglyn a'r farchnad i lyfr arbennig - byddai modd i'r cyhoeddwr wedyn drafod y mater gyda'r darllennydd a chyda'r Cyngor. Mae'n bwysig bod awdur yr adroddiad yn gwybod ymlaen llaw fod yna bosibilrwydd y bydd yn rhaid iddo amddiffyn ei farn.

Wedi dweud hynny, rhaid cyfaddef fod sustemau nawdd, ar y gorau, yn bethau amherffaith. Yn anchel, mae cyrff cyhoeddus, fel cyrff sy'n dibynnu ar nawdd eu hunain, ac sy'n atebol i gorff arall, uwch, yn mynd i chwarae'n saff, a chefnogi awduron sefydledig yn hytrach na rhai ifainc neu rai sy'n torri tir newydd.

Mae yna ddigon o reswm, felly, dros sefydlu Dinas. Mae yna lyfrau teilwng a diddorol sydd, am resymau digon technegol, yn methu denu nawdd cyhoeddus. Yn lle hynny, bydd yr awdur yn talu tri- chwarter y costau cynhyrchu, a'r costau golygu a dylunio, ond Y Lolfa fydd yn gyfrifol am bob cost arall, yn cynnwys marchnata, hysbysebu, cynrychioli, dosbarthu, storio a phob gwaith gweinyddol. Fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad, bydd yn awdur yn cael cytundeb deniadol a fydd yn cynnwys breindal o chwarter o holl dderbyniadau'r wasg.

Er yn wasgnod arbennig, rhaid pwysleiso mai rhan o'r Lolfa yw Dinas. Fe gynhwysir llyfrau Dinas yng nghatalog Y Lolfa ac ar ein safle gwe, ble bydd modd eu harchebu ar-lein. Cant eu rhestru yn hysbysebion Y Lolfa ac mewn taflenni pwrpasol. Bydd logo'r Lolfa ar y llyfrau, ac fe'u cynhyrchir i'r un safon golygyddol, ac i'r un ansawdd argraffu, � llyfrau arferol y wasg. Ac fe fyddan nhw ar ein stondin Steddfod!

Ond i Dinas lwyddo, rhaid cael mwy na chyfraniad ariannol yr
awdur. Byddwn yn dibynnu ar ei frwdfrydedd a'i gydweithrediad dros yr holl broses o gynhyrchu a marchnata'r llyfr. Dyma, felly, fath newydd, cyffrous o gyhoeddi cydweithredol a fydd yn herio diffygion y drefn swyddogol!