Preifatrwydd a diogelwch ar wefan y Lolfa
Diogelwch
Prosesir cardiau credyd ar y wefan hon trwy wasanaethau Paypal. Mae'r holl brosesu cardiau yn digwydd ar eu cyfrifiaduron diogel nhw. Gweler gwefan Paypal am fwy o fanylion.Preifatrwydd
Mae'ch preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac ni fydd y Lolfa o dan unrhyw amgylchiadau yn rhoi eich manylion personol i neb.Cookies
Rydym yn defnyddio 'cookies' ar y wefan am ddau reswm. Yn gyntaf, rydym yn creu 'session cookie' er mwyn i ni gadw manylion eich trol siopa dros dro. Mae'r manylion yma yn cael eu dileu ar ôl wythnos. Hefyd, os ydych chi'n prynu rhywbeth ar-lein, mae opsiwn i chi ofyn i ni greu 'cookie' ychwanegol ar eich cyfrifiadur gyda manylion eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fel na fydd angen i chi ail-deipio popeth y tro nesaf rydych chi am brynu rhywbeth.Rydym yn cadw manylion eich archeb ar ein system cyfrifiaduron, er mwyn i ni anfon eich llyfrau atoch.








