Y Cardis: Cybyddlyd a Siofenistaidd?
Mae'r Cardis yn enwog trwy Gymru am eu cybydd-dod honedig, ond mewn cyfrol newydd o'r enw Hiwmor y Cardi mae'r awdur Emyr Llywelyn yn mynd i'r afael â gwir hiwmor a ffraethineb gwerin Ceredigion. A dyw hi fawr o syndod fod cybydd-dod yn un thema sy'n codi'n mewn jôcs a phenillion gwerin y daeth ar eu traws:
Mewn un jôc fe aeth Cardi i'r coleg yn Aberystwyth ac roedd yn rhaid iddo fe rentu tñ. Fe ddywedodd y fenyw fach oedd yn berchen y tñ, “Fe dowles i'r myfyriwr diwetha mas achos bod arno fe naw mis o rent i fi.”
“Mi gymra i'r lle” meddai'r Cardi “mae'r telere 'na'n swnio'n eitha teg i fi!”
Elfen arall sy'n amlwg yn hiwmor y Cardis yw'r elfen siofenistaidd. Dywed yr awdur: “Mae'n nhw'n gallu trin eu gwragedd nid yn amharchus ond braidd yn ganiataol.” Ceir un stori am wraig ffermwr o Benuwch sy'n sâl. Dyma fe'n ffonio'r doctor, a chwyno ei bod hi'n wael.
“Beth chi'n feddwl wrth 'gwael'?”
“Mae hi'n wael iawn, iawn. Dwy i 'rioed wedi'i gweld hi mor wael.”
“Pam chi'n dweud 'ny?”
“Wel, gorfod i fi ei chario hi lawr stâr i wneud brecwast i fi.”
Ond mae i'r gyfrol hon a gyhoeddir gan wasg y Lolfa fwy o ddyfnder na llyfr jôcs arferol. Mae'n llawn atgofion gan Emyr Llywelyn ei hun o'i fywyd fel athro, ac mae'n portreadu rhai o gymeriadau ffraeth Ceredigion, yn cynnwys Pontsiân a'i fam-gu Ruth Mynachlog, Idwal Jones, Garnon Davies, Tydfor, Beti Davies, Dai Ffostratsol a sawl un arall. Ceir hefyd nifer o benillion gwerin i'w trysori.
Mae'r gyfrol yn rhan o gyfres 'Ti'n Jocan' Y Lolfa ac yn dilyn llwyddiant Himwor Dai Jones a Hiwmor Lyn Ebenezer a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Dyma Damaid o'r Llyfr i Aros Pryd
Y Cardi Cybyddlyd
I'r eglwys o'r diwedd aeth Leis
I'w phriodi â Chardi bach neis,
Ond wedi dod mas
Aeth y boi bach yn gas
Wrth weld yr holl wastraff ar reis!
Atgofion Ysgol Emyr Llew
Roedd yna un athro â'r llysenw Lewis y Goat. Fe fyddai Lewis y Goat yn sgubo i mewn i'r dosbarth yn ei ãn du â phapurau wedi'u marcio dan ei fraich. Wedyn fe fyddai'n dechrau eu dosbarthu nhw gan wneud sylwadau am bob un, “Aled Jones 98% – Oxford! Peter Hughes Griffiths 97% – Cambridge!”, ac ymlaen felly nes ei fod yn cyrraedd bechgyn y bryniau ar y gwaelod. Ar y gwaelod yn deg roedd yr annwyl Eric Griffiths, Tñ Hen. Doedd gan Eric ddim diddordeb mewn gwaith ysgol – dim ond mewn barddoni ac adrodd straeon digri. Dyma fe'n stwffio'r papur dan drwyn Eric gan weiddi'n ddig, “Eric Griffiths – Naught! Naught bachgen! Naught! Beth sy gyda chi i ddweud am hyn?” Ac meddai Eric, “Mae naught yn well na dim, syr!”
Y Cardi a'i Wraig
Roedd gwraig ffermwr o Benuwch yn wael. Dyma fe'n ffonio'r doctor, “Mae hi'n wael doctor.”
“Beth chi'n feddwl wrth 'gwael'?”
“Mae hi'n wael iawn, iawn. Dwy i 'rioed wedi'i gweld hi mor wael.”
“Pam chi'n dweud 'ny?”
“Wel, gorfod i fi ei chario hi lawr stâr i wneud brecwast i fi.”
Cymeriadau – Pontsiân
Tri pheth sy'n codi 'nghalon:
Cael peint yn Aberaeron,
Dwbwl jin yn Abermâd,
A phisad yn Nhregaron
Roedd Eirwyn a'i fam yn byw gyda'i fam-gu, Ruth Mynachlog, ac yno ar aelwyd ei fam-gu y dechreuodd adrodd ei straeon a'i gerddi.
Roedd Ruth Mynachlog wedi mynd yn ffaeledig ac yn methu mynd i'r cwrdd. Fe fyddai hi'n anfon Eirwyn i'r cwrdd ac ar ôl iddo ddod nôl roedd e'n gorfod adrodd beth oedd testun y bregeth a dweud beth oedd cynnwys y bregeth wrth yr hen wraig. Fe fyddai Eirwyn yn tynnu coes yr hen wraig drwy wneud ei adnodau doniol ei hunan, “Beth o'dd testun y bregeth heddi Eirwyn?”
“Testun y bregeth heddi, mam-gu, o'dd yr adnod Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd – ond gofala fod y llanw'n dod mewn!”








