Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl

Hen straeon

Sgandal, Hiwmor a “dos go dda o ragfarn” – anecdotau o fyd cerdd

“Mae byd y cerddor, credwch neu beidio, yn faes gwenwynig, yn llawn sefyllfaoedd peryglus a chweryla'n digwydd yn aml rhwng cerddorion a'i gilydd,” yn ôl Alwyn Humphryes. Ac meddai fod y “cythrel cerdd nid yn unig yn fyw ac yn iach, ond yn ffynnu, yng Nghymru a phobman arall.”

Dywed yr arweinydd adnabyddus hyn ar ddechrau ei gyfrol newydd a gyhoeddi ar 25 o Orffannaf, o'r enw
Cythrel Cerdd a gyhoeddir gan Y Lolfa. Cyfrol o anecdotau sydd ynddi o fyd offerynnwyr, cantorion, cyfansoddwyr, arweinyddion a cherddorion o bob rhan o'r byd.

Yn ôl Alwyn Humphreys “Ychydig iawn o'r llyfrau cerdd uchel-ael sy'n nodi bod Bach a Beethoven wedi bod yn y carchar, a bod Brahms yn caru gwraig ei ffrind pennaf!

Casglwyd nifer o'r storïau gan Alwyn Humphreys ar gyfer ei raglen boblogaidd Cywair ar foreau Sul ar Radio Cymru dros gyfnod o 17 o flynyddoedd, ac mae'n nodedig am ei gynnwys o sgandals, hiwmor a “dos go dda o ragfarn” o'r byd cerddorol. Manylion y llyfr

(14/07/2008)

Cyfrol Arbennig i Siaradwyr Wenglish y Cymoedd

Mae'r awdur Robert Lewis newydd gyhoeddi cyfeirlyfr newydd ar gyfer Wenglish, tafodiaith Saesneg y cymoedd. Mae Wenglish: The Dialect of the South Wales Valleys yn cynnwys esboniadau o eiriau fel “cwtch” , “butt”, “jiw” a “come by ere”. Mae'r gyfrol sydd newydd ei ryddhau gan Y Lolfa ar ffurf geiriadur yn cynnwys geirfa yn nhrefn yr wyddor, enghreifftiau o ddeialog, gramadeg, ymarferion yn ogystal â chyflwyniad i gyd-destun cymdeithasol a daearyddol iaith y cymoedd. Bydd y gyfrol yn ddefnyddiol i bobl y cymoedd sydd eisiau dod i wybod mwy am Wenglish yn ogystal ag i bobl sydd am ddysgu neu ddynwared y dafodiaith.
Dywedodd yr awdur Robert Lewis, sy'n siarad deuddeg o ieithoedd, ac yn arbenigwr ar dafodieithoedd,
“Ces fy ngeni a' magi yng Nghwm Tawe gan ddod i gyfarwyddo ag elfennau gorllewinol o Wenglish a'r Wenhwyseg, tafodiaith Cymraeg y de-ddwyrain. Mae'r gyfrol yma wedi bod yn gyfle i gyfuno fy nghefndir gyda fy niddordeb mewn ieithoedd a sut mae pobl yn siarad.”
Datblygodd diddordeb Robert mewn tafodieithoedd wrth astudio ieithoedd modern a chanoloesol yng Nghaergrawnt. Manylion y llyfr

(06/06/2008)

Gwrthdrawiadau Diwylliannol yn Ysgogi Nofelydd Newydd

Dylai'r awdures newydd Jane Blank fod yn arbenigwraig ar wrthdrawiadau diwylliannol erbyn hyn. Cafodd ei geni a'i magi yn Lloegr ond mae wedi symud yn ôl at ei gwreiddiau teuluol yng Nghymru a bellach mae wedi dysgu Cymraeg ac mae'n athrawes Saesneg mewn ysgol Gymraeg sydd nepell o Loegr.
Yn ogystal â thrafod yr ansicrwydd o fod yn Gymraes yn Sheffield yn yr 80au mae ei nofel newydd The Geometry of Love yn trin obsesiwn y Gorllewin â diwylliant y Dwyrain a Mwslemiaeth. Mae'r portread o ddylanwad cyfaill Mwslemaidd ar ddwy ferch ifanc wedi ei seilio ar brofiadau go iawn. Dywedodd Jane Blank,
“Pan o'n i'n blentyn roeddwn yn cael fy ngalw yn 'the English cousin' gan berthnasau, er bod fy rhieni yn Gymry. Do nhw ddim yn siarad Cymraeg ond cefais hunaniaeth gref Gymreig ganddynt, ac addewais i mi fy hun fel plentyn y byddwn yn dysgu Cymraeg rhyw ddydd. Des ar draws diwylliant Dwyreiniol yn ystod fy nghyfnod yn Sheffield, ac mae rhai o ddigwyddiadau'r nofel wedi eu seilio ar brofiadau cyfaill, er bod y stori ei hun yn wreiddiol.”
Erbyn hyn mae Jane yn rhugl yn y Gymraeg a Chymraeg yw mamiaith ei mhab. Mae wedi ennill toreth o wobrau ac wedi ysgrifennu i nifer o gylchgronau yn cynnwys Poetry Quartley Review, Cylchgrawn yr Observer a'r Independent. Disgrifiwyd The Geometry of Love gan Norman Schwenk fel “y nofel ddoniolaf a'r mwy rhywiol i mi ei ddarllen ers tro byd.” Manylion y llyfr

(19/05/2008)

Guto Harri i Arwain Lansiad Cyfrol Gwynfor yn y Gelli

Bydd Rhys Evans, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2006 yn lansio'r cyfieithiad Saesneg o'i gofiant meistrolgar ar Gwynfor Evans yng Nghwyl y Gelli. Bydd y sesiwn yn cael ei gadeirio gan Guto Harri sydd newydd gael ei apwyntio yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu i Faer newydd Llundain, Boris Johnson. Yn ystod y digwyddiad, fydd yn cael ei gynnal am 11:30 ar fore dydd Llun y 26ain o Fai ar lwyfan Ffilmiau Sky, bydd Rhys yn cael ei holi am gyfraniad Gwynfor i wleidyddiaeth Cymru.
Dywedodd Rhys,
“Prif ddadl y gyfrol yw y dylai Gwynfor gael ei gydnabod fel un o dri prif benseiri Cymru ar ôl y rhyfel. Tra bod bywydau'r ddau ffigwr allweddol arall, Lloyd George ac Aneurin Bevan wedi cael eu croniclo, dyma'r ymgais gyntaf i adrodd stori gymhleth Gwynfor Evans.”
Yn ogystal ag ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn a gwerthwr ffeithiol gorau 2006 cafod y fersiwn Gymraeg glod uchel gan nifer o sylwebwyr, gyda'r Dr Richard Wyn Jones yn disgrifio'r gyfrol fel “campwaith”. Pris Gwynfor Evans: A Portrait of a Patriot yw £24.95. Codir tal o £4 am fynediad i'r lansiad. Stori lawn   

(16/05/2008)

Gwobr Cyfraniad Oes i Elwyn

I goroni Gwyl Bedwen Lyfrau Crymych 2008 cyflwynwyd tlws Cyfraniad Oes i'r Diwydiant Cyhoeddi i'r darlunydd Elwyn Ioan. Brodor o Ben y Bont Rhydybeddau yw Elwyn. Ymunodd â Robat Gruffudd i fod yn aelod cyntaf o staff Y Lolfa, ac wedi deunaw mlynedd yno aeth i weithio ar ei liwt ei hun gan wneud gwaith i bob un o brif weisg Cymru o'i stiwdio yn Aberystwyth.
Yn ogystal â dylunio nifer o bosteri trawiadol yn y chwedegau a'r saithdegau, creodd gyfresi poblogaidd i blant fel Cadwgan y Llygoden o'r Lleuad, Ici'r Ddôl a Wali Wmff. Mae wedi cyfrannu yn gyson dros nifer o ddegawdau i gylchgronau fel Lol, Wcw a Chylchgronau'r Urdd ac ymddangosodd sawl cartwn o'i eiddo yn y cylchgrawn dychanol Private Eye. I gloi gwyl lwyddiannus iawn cyflwynwyd tlws hardd i Elwyn o waith y crefftwr Des Davies gan Aneurin Jones, cadeirydd y panel dyfarnu.

Capsiyn i'r Llun: Elwyn Ioan yn derbyn y tlws wrth Aneurin Jones. Hefyd yn y llun mae Bethan Gwanas ac Alun Ifans

(06/05/2008)

Awdur yn galw am “Ddileu’r Landsker Bondigrybwyll”

Ystyrir llinell 'Y Landsker' yn Sir Benfro fel ffin rhwng siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg yr ardal, ond mae'r awdur adnabyddus Hefin Wyn mewn llyfr newydd yn galw am “ddileu'r Landsker bondigrybwyll”.
Yr hanesydd George Owen oedd y cyntaf i dynnu sylw at y rhaniad hwn yn Sir Benfro, a defnyddiodd y term cyfreithiol 'land-scar' a olygai 'ffin', ar sail ffos neu glawdd ar draws tir. Yn ddiweddarach mabwysiadodd rhai ysgrifenwyr a haneswyr y term 'landsker' fel gair a ddynodai rhaniad ieithyddol ac a gyfeiriai at linell a ymestynnai ar draws gwlad o Niwgwl hyd at Llanrhath ond nad oedd yn bod mewn gwirionedd.
Ond yn ei gyfrol newydd Pentigily mae Hefin Wyn yn honni y gwnaed mwy o ddrwg nag o dda trwy orfodi meddylfryd y rhaniad anweladwy ar feddyliau trigolion y sir. Meddai Hefin Wyn: “Rhodded y gorau i'r disgrifiad Little England Beyond Wales unwaith ac am byth. Yr un bobl yw pobl Sir Benfro gyfan yn rhannu'r un diwylliant ond bod ganddynt ddwy iaith i'w fynegi a heddiw maent yn fwy unol nag erioed. Cladder y 'landsker' bondigrybwyll o dan y clawdd cerrig ar draeth Niwgwl neu yn siafftiau'r gweithfeydd glo gerllaw”.
Cyhoeddwyd y gyfrol Pentigily gan Y Lolfa yng ngãyl y Fedwen Lyfrau yng Nghrymych gyda chyflwyniad gan Hefin Wyn i hanes a chymeriadau'r Sir. Mae'r gyfrol yn lyfr taith sy'n cwmpasu llwybr arfordir enwog Sir Benfro, ac yn gyfrol a ddisgrifiwyd fel un “anhepgor i bawb sydd am ddysgu am hanes, cymeriadau a threftadaeth hynod y sir.”
Pentigily yw trydydd llyfr taith yr awdur, sydd bellach yn byw ym Maenclochog. Mae Hefin Wyn hefyd yn awdurdod ar ganu poblogaidd Cymraeg a chyhoeddodd ddwy gyfrol ar yr hanes hwnnw yn ddiweddar, sef Be bop a Lula'r Delyn Aur a Ble wyt ti rhwng? Manylion y llyfr

(13/05/2008)

Rhieni’n ysgaru yn ysgogi nofel i’r arddegau

Dyma nofel arall i'r arddegau yng nghyfres Pen Dafad. Mae'r gyfres bellach wedi hen ennill ei phlwyf ac mae'n addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3. Stori Sara yw llyfr 16 yn y gyfres a gyhoeddir gan Y Lolfa.

Mae rhieni Sara wedi ysgaru. Mae'n byw gyda'i mam ac mae ei thad ar fin priodi eto. Ysgrifenna Sara ei theimladau drwy sgwrsio ar y we gyda'i ffrindiau ac mae'n cynllwynio i ddifetha perthynas ei thad a'i bartner sy'n Athrawes Fathemateg yn ei hysgol. Mae Sara'n defnyddio ei pherthynas â bachgen Romani i ddial ar ei rhieni, ac mae'r nofel yn datgelu llawer am deimladau merch nodweddiadol bymtheg oed. Dywed yr awdures, Shoned Wyn Jones, sy'n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol John Bright, Llandudno:

“Roeddwn i'n meddwl y byddai pwnc y nofel yn apelio at yr arddegau, yn enwedig merched, gan 'mod i, fel athrawes, yn dod ar draws llawer o blant sydd yn yr un sefyllfa â Sara. Gobeithiaf y bydd yr ymdriniaeth yn helpu i ddangos fod dwy ochr yn aml mewn sefyllfa lle mae rhieni yn ysgaru.”

Dyma bedwaredd nofel Shoned Wyn Jones i'r arddegau, yn dilyn Fory Ddaw, Adlais a Gwirioni, a enillodd wobr Tir na nOg yn 2002. Manylion y llyfr

(29/04/2008)

Y Lolfa a Dinamo yn cydweithio ar gyfres o lyfrau teg

Mae gwasg Y Lolfa a chwmni animeiddio arloesol Dinamo yn cydweithio i ddatblygu cyfres newydd o lyfrau gwreiddiol i blant bach. Mae'r gyfres Cwm Teg wedi ei seilio ar y rhaglenni teledu poblogaidd o'r un enw sydd wedi bod mor boblogaidd ar S4C.

Mae'r rhaglenni Cwm Teg yn mynd o nerth i nerth gydag ail gyfres ar y gweill ar hyn o bryd, gan adeiladu ar lwyddiant y gyfres gyntaf sydd erbyn hyn wedi gwerthu ar draws y byd. Y gobaith yw y bydd y llyfrau yn dilyn yr un llwybr llwyddianus ac yn sbarduno perthynas agos a llewyrchus rhwng y ddau gwmni wrth iddynt barhau i gydweithio ar sawl brosiect newydd yn y dyfodol.

Lansir y gyfres o lyfrau Cwm Teg gyda'r gyfrol Gee Geffyl Bach, sydd wedi ei ddewis ar gyfer cynllun Sbri di Ri Cyngor Llyfrau Cymru. Yn ôl Lefi Gruffudd o'r Lolfa: “Mae'n bleser gallu cydweithio â chwmni ifanc blaengar fel Dinamo sy'n animeiddio i safon mor uchel ac sydd wedi dal dychymyg plant gyda'u celf a'u syniadau gwreiddiol. Dwi'n siwr bydd y llyfrau yr un mor ddeniadol ac apelgar â'r gyfers deledu.”

Yr ail lyfr yn y gyfres fydd 'Fuoch chi Erioed yn Morio' a gobeithir datblygu'r gyfres ymhellach flwyddyn nesaf. Awduron y gyfres yw Owen Stickler a Meinir Lynch. Manylion y llyfr

(21/04/2008)

Cathod Llundain yn rhedeg ar hyd yr M4

Bu Dafydd Wyn, awdur M4 Cats y nofel newydd i blant 10-13 oed, yn athro Saesneg yn Llundain, Y Bala ac Ystalyfera. Bellach, mae'n treulio oriau ei ymddeoliad yng Nglanaman, Sir Gâr, yn ysgrifennu yn hytrach nag astudio llenyddiaeth. The M4 Cats yw ei nofel gyntaf i blant.

Stori yw hi sy'n dilyn anturiaethau criw o gathod Cocni sy'n dianc rhag feirws angeuol yn Llundain. Maen nhw'n teithio ar hyd traffordd yr M4 i gyfeiriad Tircoed yng ngorllewin Cymru. Ond teimladau cymysg sydd gan y cathod Cymreig am hynny. Mae'r stori hefyd yn dilyn hynt a helynt tad sengl a'i dri o blant.

Dywed Meinir Wyn Edwards, golygydd gwasg Y Lolfa:
“Mae Dafydd Wyn yn uniaethu â'i gynulleidfa. Mae ganddo flynyddoedd o brofiad o weithio gyda phlant ac mae'n deall sut mae apelio atynt drwy greu cymeriadau cryf, disgrifiadau byw a hiwmor sych yn gymysg ag emosiynau plant wrth i'w rhieni wahanu.”

Dywed yr awdur: “Mae'r nofel wedi bod yn cyniwair ers blynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Lolfa am ei chyhoeddi ac am ddod â'r cathod yn fyw.”

Mae Dafydd Wyn wedi ysgrifennu nifer o ddramâu a barddoniaeth i blant ac wedi teithio'n helaeth o gwmpas ysgolion a chymdeithasau yn trafod llenyddiaeth. Cyhoeddodd un nofel i oedolion, The December Letters. Manylion y llyfr

(16/04/2008)

Dwy Ddysgwraig yn galw am Safonau Uwch gan Diwtoriaid Cymraeg

Mae dwy ddysgwraig sydd newydd gyhoeddi llyfr ar ddysgu'r iaith yn galw am safonau uwch o fewn byd y dysgwyr. Dywed cyflwyniad y gyfrol Dysgu Cymraeg gan Hilda Hunter a Carol Williams iddynt gael profiadau anghysurus mewn dosbarthiadau dysgu Cymraeg gydag agwedd a ymddangosai iddynt hwy yn “sarhad ar yr iaith”. Roedd yr agwedd israddol hon yn boen enaid i Hilda a Carol - cymaint felly fel iddynt fynd ati i ysgrifennu llyfr i annog dysgwyr ac addysgwyr i ymhél yn drwyadl â'r Gymraeg, a'i pharchu yn ei ffurf buraf.

Llun: Carol Williams a Hilda Hunter yn lansiad Dysgu Cymraeg ym Mhont Robert Manylion y llyfr

(15/04/2008)

Hanes Beti Bwt – a chodi’r llen ar hanes Trefor

Yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog fe lansiwyd Beti Bwt, nofel gyntaf yr awdures a ddaw yn wreiddiol o Drefor ond sydd bellach yn byw yn Rhiwlas ger Bangor, Bet Jones.

Wedi ei pherswadio i gystadlu gan ei merched, fe ddaeth y gyfrol hon yn ail yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint, 2007 gyda chanmoliaeth uchel iawn. Disgrifiodd un o'r beirniad y gyfrol fel un “hynod ddarllenadwy”, ac yr awdures fel un “a chanddi ddawn ysgrifennu digamsyniol.”

Yn ystod y lansiad cafwyd cyflwyniad gyda lluniau o hanes Trefor gan yr amryddawn Geraint Jones, gyda sawl llun yn dod ag atgofion nôl i'r gynulleidfa yn ogystal ag awgrymu cefndir amryw o gymeriadau'r nofel ei hun! Cafwyd hefyd ddarlleniadau o'r nofel gan yr actores adnabyddus Mari Gwilym mewn noson hwyliog ddaeth â thipyn o glod i'r awdures wrth gyhoeddi ei nofel gyntaf.

Meddai Bet: “Doeddwn i erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod o'r blaen, a ro'n i wedi meddwl gwneud hynny ers talwm.” . “Pan welais i mai 'Plentyndod' oedd y testun, roedd yn apelio'n fawr, ac fe roddodd y genod, Meinir a Gwen, hwb i mi.”

Yn y llun mae'r awdures Bet Jones, Mari Gwilym a Geraint Jones yn dathlu cyhoeddi'r llyfr Beti Bwt. Manylion y llyfr

(08/04/2008)

Y Lolfa yn Symud i Bump Lliw

Mae'r Lolfa newydd osod gwasg argraffu 5 lliw newydd yn ei ffatri yn Hen Swyddfa'r Heddlu Talybont. Bydd y wasg Komori B2 yn golygu y bydd Y Lolfa argraffu gwaith o'r safon uchaf yn gynt nag erioed.
Mae'r wasg yn rhan o Gynllun Datblygu'r Lolfa sy'n cynnwys buddsoddiad o £750,000 dros dair blynedd ar offer a swyddfeydd. Eisoes mae'r Lolfa wedi creu swyddfa newydd ac wedi prynu peiriannau plygu a chasglu awtomatig ac mae'n fwriad gan y cwmni i ymestyn ymhellach yn y dyfodol agos.
Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Cynhyrchu'r Lolfa,
“Bydd y buddsoddiad yma yn yr offer diweddaraf yn golygu y byddwn yn llawer mwy effeithiol ac yn gallu cynhyrchu gwaith o'r safon uchaf am brisiau rhesymol iawn. Byddwn hefyd yn gallu troi gwaith yn gynt. Rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cynnig gwasanaeth cyflym i'n cwsmeriaid.”
Derbyniodd Y Lolfa gefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ceredigion tuag at y datblygiadau. Os am dderbyn pris neu gyngor am unrhyw waith argraffu mae croeso i chi gysylltu â Paul Williams yn Y Lolfa (01970 832304 – paul@ylolfa.com).
Llun: Geraint Jenkins, Brian Duell a Paul Williams o flaen y peiriant newydd.

(03/04/2008)

Cofiant Cyntaf i Un o’n Beirdd Mwyaf

Dywedodd y beirniad llenyddol Bobi Jones fod Guto'r Glyn ymhlith yr hanner dwsin o feirdd mwya i ddod o Gymru erioed. Mae'r ysgolhaig Edward Arfon Rees, wedi ysgrifennu'r cofiant llawn a thrylwyr cyntaf o fywyd a gwaith y bardd, ac wedi gwneud gwaith ymchwil manwl arno mae'n adleisio barn Bobi Jones am y bardd o'r Gogledd Ddwyrain. Dywedodd,
“Heb os Guto'r Glyn oedd un o feirdd mwyaf Cymru yn anterth barddoniaeth Gymraeg rhwng 1430 a 1530. Gobeithiaf y bydd cyhoeddi'r llyfr yma yn gam tuag at adfywio'r ymwybyddiaeth am Guto, ac yn gwneud ei waith yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Roedd Guto yn feistr ar drin geiriau ac roedd ganddo'r ddawn o ddod a gwahanol bethau yn fyw gyda'i ddisgrifio. Efallai mai'r cerddi mwya rhyfeddol a grymus yw'r cerddi am ei farwoldeb ef ei hun a ysgrifennodd tuag at ddiwedd ei fywyd.”
A Life of Guto'r Glyn yw teitl y gyfrol a gyhoeddir gan Y Lolfa. Mae'n darlunio gyrfa Guto fel bardd a milwr ac yn ei ddilyn i lysoedd ei noddwyr yn ne a gogledd Cymru. Mae'r gyfrol hefyd yn ymdrin â hinsawdd ddiwylliannol a chymdeithasol Cymru yn y bymthegfed ganrif ac yn dadansoddi ymateb Guto i ddigwyddiadau mawr ei oes. Mae Arfon Rees yn Athro ar hanes Dwyrain Ewrop ym Mhrifysgol Fflorens. Stori lawn    Manylion y llyfr

(18/04/2008)

Pump o Lyfrau’r Lolfa yn y Ras am Lyfr y Flwyddyn

Cyhoeddwyd fod hanner rhestr hir Gymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni yn gyhoeddiadau gan Y Lolfa. Ymhlith y nofelau ar y rhestr mae dwy gan gyn-enillwyr diweddar sef Y Gemydd gan Caryl Lewis a'r Ergyd Olaf gan Llwyd Owen. Hefyd ar y rhestr mae cyfrol fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Pryfeta gan Tony Bianchi, Mae Llygaid gan y Lleuad gan Elin Llwyd Morgan a Prifweinidog Answyddogol Cymru gan Gwyn Jenkins.

Llongyfarchiadau mawr i'r pump awdur! Stori lawn   

(14/03/2008)

Teyrnged i Fitamin C o Gymro

Yn ei gyflwyniad i i'r gyfrol Cofio Grav mae Hywel Teifi Edwards yn disgrifio Ray Gravell fel “Fitamin C o Gymro”. Mae'r gyfrol, â lansiwyd mewn cyngerdd arbennig yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin yn gofnod unigryw o'r parch a'r edmygedd oedd gan ei gyd-Gymry i'r cawr o Fynydd y Garreg. Mae'n cynnwys teyrngedau lu – yn ysgrifau, yn sylwadau ar y we ac yn farddoniaeth gan brifeirdd, gwrandawyr ei raglen radio, cyfeillion, gwleidyddion a chwaraewyr rygbi. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys degau o luniau gwahanol o Ray o sawl cyfnod gwahanol yng nghwmni'r bobl hynny oedd yn golygu cymaint iddo.

Keith Davies, cynhyrchydd ei raglen radio a chyfaill agos iddo, yw golygydd Cofio Grav. Bydd yr elw o werthiant y gyfrol yn mynd i Gronfa Ray Gravell.

Llun: Manon a Gwenan (merched Ray a Mari) gyda chopi o Cofio Grav. Stori lawn    Manylion y llyfr

(20/03/2008)

Caryl Lewis yn Troi at y Gyfraith

Practis Cyfreithiol yw'r cefndir i'r nofel fer newydd Jackie Jones gan Caryl Lewis. Prif ganolbwynt y nofel yw cyfreithwraig lled-ifanc ddisglair o'r enw Jackie Jones, sydd wedi creu argraff am ei dawn i amddiffyn drwgweithredwyr yn llwyddiannus. Fodd bynnag dyw pethau ddim yn fêl i gyd iddi. Mae ei bywyd personol yn eitha blêr ar ôl iddi wahanu wrth ei gwr, mae'r swyddfa yn llawn tyndra a themtasiynau a dyw pawb ddim yn ei hedmygu am ei dawn i achub croen rhai o ddihirod y dref.
Nofel ysgafn fer can tudalen i oedolion yw Jackie Jones, ac yn debyg i Y Rhwyd mae'n nofel gyfoes sy'n darllen yn rhwydd, yn llawn troadau yn y plot ac yn gadael digon i'r darllenydd gnoi cil arno. Yn ogystal â chyhoeddi toreth o nofelau i oedolion a phobl ifanc mae Caryl Lewis, sy'n byw yng Ngoginan yng Ngheredigion, wedi bod yn brysur yn addasu Martha Jac a Sianco i ffilm ar gyfer S4C. Manylion y llyfr

(28/02/2008)

Bethan Gwanas yn y Gwledydd Bychain

Mae Bethan Gwanas wedi bod yn teithio i bob cwr o'r byd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ei hargraffiadau di-flewyn-ar-dafod a ffraeth wedi rhoi cip i wylwyr S4C o fywyd ym mhob cornel o'r byd.
Mewn cyfrol sydd newydd ei gyhoeddi mae Bethan yn dilyn trywydd llai egsotig nag arfer ac yn canolbwyntio ar rai o'r gwledydd bychain sy'n nes adref. Yn y gyfrol Y Gwledydd Bychain mae Bethan yn troi ei golygon at Wlad y Basg, Llydaw a Norwy. Mae'n cyflwyno diwylliant, naws, iaith a ffordd o fyw y gwledydd gan eu cymharu gyda Chymru a chan gesio gweld os oes gan Gymru wersi i'w dysgu wrthynt. Ymysg nifer o bethau eraill mae'n trafod sut mae merched yn cael eu trin yn Norwy, annibyniaeth i Wlad y Basg a diwylliant gwerin Llydaw.
Bethan Gwanas yw'r awdures fwyaf poblogaidd sy'n ysgrifennu yn Gymraeg, ac fel ei llyfrau eraill a'i cholofnau yn yr Herald, mae Y Gwledydd Bychain yn gyfrol ddarllenadwy a difyr sy'n cynnig golwg wahanol ar wledydd eraill sydd ar y cyrion. Manylion y llyfr

(21/02/2008)

Derfel Williams - Dyn y Syrcas

Mewn Cyfrol newydd mae Derfel Williams o Borthmadog yn disgrifio ei brofiadau yn crwydro Prydain a Ffrainc yn gweithio fel “Ringmaster” i gwmnïau syrcas. Ers iddo weld criw “y Brodyr Fossett” gyda'u pabell fawr ym Mhorthmadog yn fachgen bach roedd Derfel Williams wedi cael ei fopio yn llwyr gan fyd lliwgar y syrcas. Yn ddisgybl ysgol ac yn fyfyriwr yn y Coleg Normal byddai yn treulio ei amser hamdden gyda chriw'r syrcas, ac unwaith iddo adael y coleg dysgodd sut i jyglo a balansio cleddyfau a cododd ei bac.
Anton Callini oedd ei enw llwyfan ac mae'r gyfrol Dyn y Syrcas yn bortread cignoeth o fywyd caled a difyr Derfel wrth iddo weithio oriau annynol, yn byw mewn carafán fach ac yn crwydro o dre i dre. Mae'r gyfrol yn cynnwys storiâu a phortreadau o rai o adar brith a chymeriadau lliwgar byd y syrcas yn ogystal ag atgofion melys am nosweithiau llawn hwyl a chyffro ac ambell i fflop.
Mae bron i wyth mlynedd bellach ers perfformiad olaf Derfel, ac erbyn hyn mae'n gweithio i'r BBC yng Nghaerdydd, ond mae'n dal i hiraethu am ei fywyd yn y syrcas.
“Mae fy ngwisgoedd disglair yn parhau i hongian yn y cwpwrdd gartre ym Mhorthmadog ac yn aml bydda i'n teimlo hiraeth am y goleuadau ac arogl y llwch lli. Ond wrth edrych ar y glaw a'r gwynt yn chwythu yn erbyn ffenest fy fflat, dwi'n meddwl mai aros yn y cwpwrdd fydd y secwins. Am y tro, beth bynnag.” Manylion y llyfr

(19/02/2008)

LSD yn rhoi Llanddewibrefi ar y map – eto fyth

Rhwng gwyrthiau Dewi Sant ac ymddangosiadau ar y rhaglen Little Britain, daeth Llanddewibrefi i gryn enwogrwydd ar hyd y blynyddoedd, ond i lawer rhyfeddod mwya'r lle oedd iddo ddod yn un o ganolfannau cyffuriau enwoca'r byd yn yr 1970au. Ac mewn llyfr newydd gan Lyn Ebenezer fe ddatgelir pwy oedd yn cymryd pa gyffuriau yn yr ardal a sut y llwyddodd yr heddlu i chwalu rhwydwaith cyffuriau mwya'r byd gydag Operation Julie yn 1977.

Mae'r awdur, a oedd yn newyddiadurwr gyda'r Cymro ar y pryd, yn datgelu sut y tyfodd Llanddewibrefi i fod yn ganolfan i sêr y byd pop yn Lloegr, yn cynnwys y Rolling Stones, Jimmy Hendrix ac Eric Clapton, a oedd yn dod i aros gyda'r chwedlonol David Litvinoff yn Llanddewibrefi yn niwedd y 60au. Yn ôl yr awdur “Mae hi bron yn sicr fod Bob Dylan wedi aros gyda Litvinoff am chwe wythnos yn ystod haf 1969 ar ôl iddo fod yn yr Wyl bop yn Ynys Wyth, ac mi wnaeth Keith Richards o'r Rolling Stones gyfaddef ei fod yn ymweld â'r lle a'i fod wedi defnyddio pob cyffur anghyfreithlon oedd yn bod, ac ambell un nad oedd yn bod!”

Ond mae'r llyfr Operation Julie yn delio'n bennaf gyda chyrch enwog yr heddlu a ddaeth i roi stop ar y rhwydwaith cyffuriau anferth lle cynhyrchwyd gwerth miliynnau o LSD pur yng nghefn gwlad Cymru. Ym mis Mawrth 1977 fe arestiodd yr heddlu ddegau o bobl a ffeindio chwe miliwn tab o LSD – y stash mwya o gyffuriau anghyfreithlon erioed. Roedd 800 o heddlu yn rhan o'r ymgyrch. Arestiwyd 120 o bobl i gyd, a daethpwyd o hyd i dabledi LSD gwerth £100 miliwn! Dyma'r achos mwyaf o'i fath erioed, a ddaeth a Llanddewibrefi, Tregaron a Carno i enwogrwydd drwy'r byd.

Cyhoeddir y gyfrol Operation Julie gan Y Lolfa fel rhan o'r gyfres Stori Sydyn sy'n cael ei gefnogi gan Cyngor Llyfrau Cymru a Sgiliau Sylfaenol Cymru. Bydd yn cael ei lansio yn Swyddfa'r Heddlu Aberystwyth am 7.00 nos Fercher 13 Chwefror. Manylion y llyfr

(14/02/2008)

Colli Mam yn ysbrydoli nofel

Ar ol colli ei mam i gancr, fe ysbrydolwyd awdures ifanc i ysgrifennu nofel oedd yn creu darlun ohoni i'w mab ifanc. Ganwyd Efan, mab Manon Steffan Ros yn 2005, ond bu farw ei mam o gancr yn 2003, ac mi ysbrydolwyd Manon i ysgrifennu'r nofel am na fyddai Efan byth yn nabod ei Nain.

Meddai Manon: “Do'n i ddim yn hapus gyda'r syniad ohono'n gweld hi fel person mewn llun, person heb gig a gwaed. Felly mi benderfynais i lunio stori gyda Mam, yn ei harddegau, yn un o'r prif gymeriadau, gan obeithio y byddai Efan yn adnabod ychydig mwy arni pan fyddai o'n ddigon hen i ddarllen y llyfr.”

Trwy'r Darlun yw nofel gyntaf Manon Steffan Ros. Er iddi ennill Y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dod yn agos at ennill y Goron yn Eisteddfod 2006, dyma ei chyhoeddiad cyntaf a'r nofel gyntaf yn Nghyfres yr Onnen i blant 10-13 oed gan wasg Y Lolfa.

Mae sawl elfen o fywyd yr awdures ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn y nofel. Gwlad hudol Crug yn y stori yw ardal enedigol ei mam ym Mryncrug; mae cymeriad Cledwyn yn y nofel wedi deillio o lun o hen berthynas iddi; ac mae Manon bellach yn byw yn ardal Aberdyfi, lle mae'r prif gymeriadau'n byw.

Meddai Meinir Edwards, Golygydd Y Lolfa, “Dyma nofel ffres, llawn dychymyg. Mae Manon Steffan Ros yn awdures ifanc, newydd, gyffrous. Rwy'n siwr y clywn ni dipyn mwy amdani hi, a'i nofelau, yn y dyfodol.”

Mae Manon yn dod o deulu clos a chefnogol iawn – ei thad, Steve Eaves, ei chwaer, Lleuwen Steffan, ei brawd, Iwan a'i gwr, Nic. Ar ôl gweithio fel actores, daeth Manon i lygad y cyhoedd ar ôl iddi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe. Ond bellach mae wedi troi o fyd y ddrama i fyd y nofel. Meddai'r awdures, “Rydw i'n gobeithio sgwennu nofel i oedolion yn y dyfodol agos, a pharhau i sgwennu i blant. Mae gen i syniad am drioleg!” Manylion y llyfr

(05/02/2008)

Ymgais Newydd i Ragweld ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’

Wedi ymgais Islwyn Ffowc Elis i ragweld dyfodol Cymru yn ei nofel Wythnos yng Nghymru Fydd, mae awdures brofiadol arall wedi mynd ati i greu darlun meddylgar a chlyfar o Gymru'r dyfodol. Yn ei thrydedd nofel o'r enw Annwyl Smotyn Bach mae'r awdures Lleucu Roberts wedi creu darlun o Gymru yn 2040 a'r 'Snowdonia Population Shelter' yn 2089, ac mae'n cyfadde ei fod yn ddarlun tywyll. Erbyn canol y ganrif mae'r Brawd Mawr yn cadw golwg ar bopeth a dim ond mewn ysgolion cudd y mae'r iaith Gymraeg yn cael ei throsglwyddo a'i defnyddio.

Meddai Lleucu: “Er mai darlun tywyll sydd ynddi o Gymru'r dyfodol, credaf fod digon o ewyllys gennym fel Cymry i sicrhau na ddaw'n wir. Gobeithio fod digon ynddi i wneud i ni gnoi cil dros beth allai ddigwydd, ac yn wir, beth sydd eisoes yn bodoli: ychydig iawn o newid yn ei hanfod fu angen ar y darlun o Gymru heddiw, dim ond ymestyn tamaid bach ar linyn y dychymyg a dilyn trywydd canlyniadau posib.”

Yn y nofel mae pobl yn gyrru cerbydau hydrogen, mae pawb yn cael eu monitrio'n ddi-baid, a does fawr neb yn darllen llyfrau. Ond yr hyn sy'n cynnal y nofel Annwyl Smotyn bach yw'r dyddiadur y mae'r prif gymeriad yn ei sgwennu i'r plentyn yn ei chroth yn 2040. Ac er ceisio cuddio'i theimladau a'i chynlluniau, mae pob ymgais i geisio arbed rhywfaint ar ei hunaniaeth, ei diwylliant a'i hiaith yn wynebu rhwystrau.

Cyhoeddir Annwyl Smotyn Bach ar 1 Chwefror ac fe'i dewiswyd fel Nofel y Mis ar gyfer mis Chwefror o dan gynllun hyrwyddo Cyngor Llyfrau Cymru. Manylion y llyfr

(01/02/2008)

Chwedlau Chwim i Blant

Mae'r Lolfa newydd rhyddhau cyfres newydd o bump o chweldau Cymreig ar gyfer plant. Mae'r gyfres Chwedlau Chwim wedi eu hanelu at blant tua 7-9 oed sy'n medru darllen yn annibynnol.
Mae gan Meinir Wyn Edwards 18 mlynedd o brofiad fel athrawes mewn ysgolion cynradd, ond penderfynodd droi o brysurdeb y byd addysg er mwyn dilyn trywydd gwahanol yn y byd cyhoeddi. Wedi bod yn addasu ac ysgrifennu llyfrau i blant yn ystod penwythnosau a gwyliau, mae erbyn hyn yn troi ym myd llyfrau wrth ei gwaith bob dydd fel Golygydd i wasg Y Lolfa. Meddai,
“Y nod yw cynhyrchu llyfrau lliwgar, bach o ran maint ond eang eu hapêl, i'w darllen yn chwim o glawr i glawr. Roeddwn wrth fy modd yn darllen a thrafod llyfrau ar lawr y dosbarth, ac mae'n braf iawn cael y cyfle i ddod â'n chwedlau gwerin Cymreig ni'n fyw i genhedlaeth newydd o blant. Rwy wedi ceisio apelio at blant o bob cwr o Gymru – o Ferthyr i Nant Gwrtheyrn - at fechgyn a merched, a dod â rhyw ogwydd ffres i bob un o'r chwedlau.”

Gini Wade yw arlunydd y gyfres. Mae 11 o luniau llawn lliw ym mhob un o'r llyfrau 24 tudalen o hyd ac maent yn ychwanegu at naws a mwynhad y testun bob tro. Mae hi'n byw yn Llanidloes ac yn gweithio fel DJ.

Cantre'r Gwaelod, Rhys a Meinir, Dic Penderyn, Gwylliaid Cochion Mawddwy a Maelgwn Gwynedd yw'r teitlau yn y gyfres. I gyd-redeg â Chwedlau Chwim, mae Y Lolfa yn cyhoeddi'r gyfres 'In a Flash!' ar yr un pryd, sef addasiadau Saesneg o'r 5 llyfr Cymraeg. Manylion y llyfr

(28/01/2008)

Dyddiaduron 2009!

Mae'r gwaith wedi cychwyn ar roi trefn ar gyfeiriadur Dyddiaduron 2009 Y Lolfa. Mae'r cyfeiriadur wedi datblygu i fod yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am sefydliadau, cymdeithasau a busnesau Cymreig. Os ydych am i'r Lolfa gynnwys gwybodaeth am sefydliad newydd yn Nyddiadur 2009 neu os ydych am ddiweddaru neu gywiro gwybodaeth mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae gwerthiant blynyddol y dyddiaduron bellach wedi codi i 16,000 o gopïau, ac eleni, fel arfer, bydd cyfle i hysbysebu tu mewn ac ar glawr y dyddiaduron A5, A4 a phoced. Os am dderbyn taflen delerau cysylltwch drwy ddanfon e-bost i dafydd@ylolfa.com.

(21/01/2008)

Dewi Prysor v Llwyd Owen

Bydd dau o awduron ifanc mwya gwreiddiol, di-flewyn-ar-dafod a chynhyrchiol Cymru yn dod at ei gilydd yn y Palas Print Caernarfon ar nos Iau yr 17fed o Ionawr. Bydd Dewi Prysor yn holi Llwyd Owen am ei nofel newydd Yr Ergyd Olaf. Disgrifiodd Prysor, sydd newydd gyhoeddi nofel ei hun Madarch, Llwyd Owen fel “Tarantino Llenyddiaeth Gymraeg”. Wrth adolygu'r gyfrol fodd bynnag awgrymodd Llion Iwan bod gwaith Llwyd yn debycach i ysgrifennu'r Albanwr Irvine Welsh. Un peth sy'n sicr yw bod gwaith y ddau rebel yma fel chwa o awyr iach i'r byd llyfrau Cymraeg, a dylai'r noson sy'n cychwyn am 6:30 fod yn ddifyr iawn. Stori lawn    Manylion y llyfr

(14/01/2008)

Tryweryn: Amheuon am Gyfraniad Gwleidyddion gan Awdur o Gapel Celyn

Hanner canrif ers boddi Cwm Tryweryn mae un o bentrefwyr Capel Celyn yn cyhoeddi amheuon ynghylch y modd y deliodd nifer o wleidyddion amlwg â'r argyfwng ac a'r trigolion lleol.

Yn ei lyfr o'r enw Cofio Capel Celyn mae Watcyn Jones yn codi amheuon am yr argraff sydd wedi parhau ac a grewyd gan awduron blaenllaw ers y digwyddiad. Wrth sefydlu is-bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn gan Blaid Cymru, mae'n honni y bu cryn ddadlau ac anghydweld a chrewyd yr argraff fod y pwyllgor wedi cyflawni mwy gan y gwnaeth: “Efallai i'r teitl roi'r argraff i rai darllenwyr papurau'r dydd fod yr is-bwyllgor yn gysylltiol â Phwyllgor Amddiffyn Capel Celyn. Hefyd, hwyrach y gellir tybio i'r beirniadu hallt wthio swyddogion Plaid Cymru i ehangu ar yr honiad iddynt gyfrannu mwy nag a wnaethpwyd yn ystod yr ymgyrch. Yn wir, gellid dadlau iddynt wneud mwy o ddrwg na daioni.”

Mae'r awdur hefyd o'r farn nad yw llawer o'r trigolion lleol wedi cael y clod haeddiannol “am nad oeddynt yn wybodus ym myd gwleidyddiaeth a phrotestio cyhoeddus”. Manylion y llyfr

(23/12/2007)

Hunangofiant Prif Artist y Gymru Wledig

Ar Ddydd Sul y 9fed o Ragfyr, yng nghaffi siop Jibinc Aberaeron, bydd hunangofiant yr artist Aneurin Jones yn cael ei gyhoeddi. Yn ogystal â hanes ei fywyd mae'r gyfrol yn cynnwys bron i ddau gant o luniau a sgestus yr artist.
Cafodd Aneurin ei fagu yng Nghwm Wysg cyn gadael am Goleg Celf Abertawe ac yna symudodd i ardal y Preselau lle cafodd ailddarganfod y gymuned glos a'r cymeriadau gwreiddiol a adnabu yn ei ieuenctid. Mae'r gyfrol yn llawn straeon ffraeth a phortreadau cofiadwy o bobl ac anifeiliaid, gan ddarlunio ffordd o fyw gwledig sy'n araf ddiflannu. Mae Aneurin yn datgelu beth sy'n ei ysbrydoli fel artist, sut mae'n mynd ati i dynnu llun yn ogystal ag esbonio cefndir rhai o'r lluniau.
Mae gwaith Aneurin wedi cael ei arddangos mewn orielau trwy Gymru, yn Llundain a thu hwnt, ac wedi ennill clod gan wybodusion yn ogystal â phoblogrwydd rhyfeddol ymhlith gwerin Cymru. Dywedodd Emyr Llywelyn, a gydweithiodd gydag Aneurin ar y llyfr,
“Gwyddom yn ein calonnau fod lluniau Aneurin yn llefaru'r gwirionedd am berthynas dyn â'i gyd-ddyn, am berthynas dyn ag anifail, am ei berthynas â'r pridd ac yn bwysicach na dim am ei berthynas â'r hyn sy'n real ac yn dragwyddol.”
Yn ogystal â rhyddhau fersiwn clawr meddal o'r gyfrol (£19.95) bydd Y Lolfa yn cyhoeddi argraffiad cyfyngedig clawr caled wedi eu harwyddo (£29.95). Dim ond 500 copi o'r rhain fydd ar gael ac mae'r wasg yn disgwyl iddynt werthu allan yn gyflym. Yn ogystal â'r lansiad yn Jibinc bydd Aneurin yn galw yn y siopau canlynol i arwyddo'r llyfr.
11 Rhagfyr: Oriel Awen Teifi, Aberteifi, 6:00, 13 Rhagfyr: Yr Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre, 7:30 - 9:00, 15 Rhagfyr: Siop T-Hwnt, Caerfyrddin, 12.00, 15 Rhagfyr Siop y Pentan, Caerfyrddin, 2.00. Stori lawn    Manylion y llyfr

(05/12/2007)

75 mlynedd o’r Cymro, ar y chweched cynnig...

Yn niwedd Tachwedd fe ddathlwyd 75 mlynedd o gyhoeddi un o bapurau pwysica'r Gymraeg yr ugeinfed ganrif – Y Cymro. I gydfynd â'r dathliadau cyhoeddwyd cyfrol arbennig sy'n edrych yn ôl ar hanes un o sefydliadau enwocaf Cymru.

Ond nid hwn oedd y papur cynta i'w gyhoeddi o dan enw Y Cymro. Yn y gyfrol Cofio'r Cymro mae Robin Jones yn rhoi sylw i sawl Cymro blaenorol, o'r un a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1848 ym Mangor fel papur eglwysig, i'r rhai a sefydlwyd wedyn yn Llundain, Treffynnon, yr Wyddgrug a Dolgellau. Ond mae'r prif sylw i'r Cymro presennol a sefydlwyd yng Nghroesoswallt yn 1932 ac a ddatblygodd i fod yn un o bapurau mwya poblogaidd Cymru o dan olygyddion talentog fel John Eilian a John Roberts Williams.

Mae'r gyfrol yn llawn lluniau trawiadol gan ffotograffwyr enwog fel Geoff Charles a Robin Griffith – cofnod hanesyddol gwerthfawr am bapur a gyfrannodd gymaint i fywyd a diwylliant Cymru ac a oedd yn gwerthu degau o filoedd yn wythnosol yn yr 1950au. Yn ôl yr awdur Robin Jones, “Y peth pwysig heddiw, wrth ddathlu pen-blwydd Y Cymro yw fod y papur yn fyw ac yn iach heddiw, a bod ganddo o hyd filoedd o gefnogwyr ffyddlon sy'n ei fwynhau'n wythnosol. Mae ei barhad, a pharhad yr iaith, yn dibynnu ar gefnogaeth – cefnogaeth sy'n allweddol os y byddwn i ddathlu ei ganmlwyddiant yn y flwyddyn 2032.”

Brodor o Gwm Penmachno yw Robin Jones, ac mae bellach yn byw ym Methel, Caernarfon. Mae'n swyddog marchnata gyda'r Cymro ers 2004, ac mae'n llais cyfarwydd ar Radio Ceredigion. Mae'n arweinydd cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad, a bu'n ysgrifennu i sawl papur dros y blynyddoedd, ond dyma'i gyfrol gyntaf. Manylion y llyfr

(03/12/2007)

Coroni Blwyddyn Gynhyrchiol Dewi Prysor

Tafarn Y Ring, Llanfrothen oedd lleoliad lansiad Madarch, nofel garlamus newydd gan Dewi Prysor. Mae Madarch yn ddilyniant i Brithyll a gyhoeddwyd y llynedd ac yn coroni blwyddyn gynhyrchiol iawn i'r awdur a'r cerddor o Lan Ffestiniog. Eisoes eleni mae wedi cyhoeddi llyfr o limrigau, CD gyda'i grwp Vates, ac mae'n dad am y trydydd gwaith.
Profodd Brithyll yn llwyddiannus iawn gan werthu yn bennaf i bobl sydd heb arfer prynu llyfrau Cymraeg. Cafodd hiwmor a gonestrwydd y gyfrol groeso brwd gan adolygwyr hefyd, ac awgrymodd yr awdur Aled Jones Williams ar raglen Gwilym Owen y dylai'r gyfrol gael ei astudio mewn ysgolion. Wrth drafod ei gyfrol newydd yn ystod y noson, dywedodd Dewi,
"Gwraidd llwyddiant 'Brithyll' oedd ei bod yn portreadu elfennau o gymdeithas, a'u hiwmor, sydd ddim fel rheol yn cael eu hadlewyrchu gan lenyddiaeth Cymraeg. Mae 'Madarch' yn ddilyniant sy'n cynnwys yr un elfennau, yr un hiwmor, a'r un cymeriadau yn cael eu hunain yn yr un math o sefyllfaoedd eto. Felly, dwi'n ffyddiog y bydd hi yr un mor boblogaidd. Eith y madarch i lawr yn dda, dwi'n siwr...”
Ychwanegodd Twm Miall, awdur Cyw Haul, sydd wedi ei seilio ar yr un ardal â gwaith Dewi Prysor,
“Mae Madarch yn hymdingar o nofel fyrlymus arall o stabal Prysor, awdur sy'n nabod ei bobol ac sy'n ddigon dewr i ddweud y plaendra am y sefyllfa sydd ohoni yng nghefn gwlad Meirionydd heddiw.” Manylion y llyfr

(23/11/2007)

Awdur Llyfr y Flwyddyn yn Troi at fyd ‘Angylion Uffern’

Mae awdur Llyfr y Flwyddyn 2007, newydd gyhoeddi ei drydedd nofel, flwyddyn a hanner yn unig ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf – a'r tro hwn mae wedi troi i fyd 'Angylion Uffern' De Cymru. Ar ôl cyhoeddi dwy nofel am fydoedd amrywiol Caerdydd, mae'r nofel hon gan Llwyd Owen yn mynd ar drywydd byd eithafol gangsters, cyffuriau a 'hit men'.

Yn ôl Llwyd, cafodd y nofel ei dylanwadu gan gymeriad eithriadol y daeth ar ei draws pan oedd ar grwydr yn Awstralia: “Pan o'n i yno des i nabod boi o'r enw Tybs oedd yn datãs drosto, yn byw ar werthu cyffuriau ac yn ran o'r Hell's Angels – a dyna un o'r cymeriadau mwya diddorol a hoffus dwi erioed wedi gwrdd. Mae prif gymeriad Yr Ergyd Olaf felly wedi ei seilio ar yr hen Tybs, ond mae'r stori a'r digwyddiadau i gyd wedi eu lleoli yn Ne Cymru.”

Disgrifiodd Dewi Prysor Yr Ergyd Olaf fel “treiffl gogoneddus o waed a hylifau corfforol eraill” a disgrifiodd Llwyd Owen fel “Tarantino Llenyddiaeth Gymraeg”. Ac yn dilyn ei lwyddiant yn ennill Llyfr y Flwyddyn yn 2007, bydd cryn edrych ymlaen at y nofel hon gan y “plot-feistr” – yr awdur mwya cynhyrchiol yng Nghymru heddiw. Stori lawn    Manylion y llyfr

(22/11/2007)

Stephen Jones yn Datgelu'r Cyfan

Wedi'r chwiban olaf gael ei chwythu ac wythdeg munud o chwarae caled ddod i ben, mae Stephen Jones yn gorfod wynebu beirniadaeth gan newyddiadurwyr, sylwebwyr a chefnogwyr am safon ei chwarae. Ond eleni mae wedi gwynebu'r beirniad anoddaf a chaletaf un, sef ef ei hun wrth iddo gynnig golwg ar fywyd chwaraewr rygbi proffesiynol yn ei lyfr newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa, Stephen Jones: o Clermont i Nantes.
Yn y llyfr hwn mae Stephen Jones yn cofnodi blwyddyn o chwarae wedi iddo ddychwelyd yn ôl i dre'r sosban o Clermont yn Ffrainc gan ailymuno a thîm y Sgarlets. Ar ffurf dyddiadur, mae'n bwrw golwg dros gemau Cynghrair Magners, Cwpan Heineken, gemau Rhyngwladol yr Hydref, pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd wrth iddo roi sylwebaeth lawn ar ei berfformiad, ei anafiadau ac ofnau wrth iddo wynebu blwyddyn anoddaf ei yrfa.
Mae'n trafod ei lawenhad o gael dychwelyd i dîm y Sgarlets a'r boddhad o wneud yn dda yn y Cwpan Heineken, y modd iddo gael ei feirniadu yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, siom fawr Cwpan y Byd, y 'frwydr' rhyngddo ef a James Hook am y crys rhif 10, ac ymadawiad Gareth Jenkins. Ond yma hefyd mae'n bwrw ei fol ar bryderon ei anafiadau, pwysau'r dasg o fod yn Gapten ar ei wlad, a'i ofnau wrth gamu ar y maes chware yn ogystal â'r gwir tu ôl i ddigwyddiadau'r 'noson o yfed' yna yn yr Alban yn ystod Cwpan y Byd.
Ceir hefyd gipolwg tu ôl i'r llen, y gwir tu ôl i benawdau praff y papurau newydd, y tynnu coes o fewn y garfan a'i hoffter am fwyd, caffis a boules wedi ei gyfnod yn Ffrainc. Mae'n trafod ei fywyd y tu hwnt i'r cae rygbi wrth iddo baratoi i agor tŷ bwyta ar y cyd a'i gyd-chwarewr Dwayne Peel a'i obeithion am y dyfodol. Ceir straeon sy'n egluro sut y daeth i gyfarfod a'r paffiwr Sugar Ray Leonard mewn maes awyr, a sut y daeth cyfeillgarwch ac Alistair Campbell yn ddefnyddiol iddo wedi siom pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Ers i fi ddod 'nôl i Lanelli ar ôl 'y nghyfnod gyda Clermont fe fu'n flwyddyn 'lan a lawr' ar sawl cyfri. A dweud y gwir ro'n i wedi anghofio faint o sialens oedd bod yn wharaewr dosbarth cyntaf yma yng Nghymru, a chyment y mae rhywun o dan y chwyddwydr gan y wasg a'r cyfryngau,” meddai Stephen.
Yn ail yn unig i Neil Jenkins fel prif sgoriwr Cymru, mae Stephen Jones yn arwr i gannoedd o ddilynwyr rygbi ar hyd a lled y wlad. A hithau wedi bod yn flwyddyn a hanner iddo wrth ddychwelyd yn ôl i'w hen glwb, dioddef sawl anaf cas a chyrraedd pen llanw pedair blynedd o baratoi ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd, mae'r llyfr difyr hwn yn cynnig golwg ar y dyn tu ôl i gyrs rhif 10 y Sgarlets a Chymru. Manylion y llyfr

(20/11/2007)

Lansio Hiwmor Sir Gar

Mewn casgliad newydd o hiwmor mae'r diddanwr a chyn-faer Caerfyrddin Peter Hughes Griffiths yn talu teyrnged i'r cymeriadau ffraeth wnaeth ei “fwydo gyda jôcs” yn ei ardal enedigol. Yn y gyfrol Hiwmor Sir Gâr disgrifia'r awdur hanner can mlynedd y ganrif ddiwethaf fel “oes aur” hiwmor naturiol ym mhentrefi a threfi Sir Gaerfyrddin ac ynddi ceir casgliad o straeon doniol am gymeriadau lliwgar y sir.
Dywedodd Peter a gafodd ei fagi Nrefach Felindre ond sydd bellach yn un o gymeriadau amlycaf Caerfyrddin,
“Cefais fy magu mewn ardal gyda llond y lle o gymeriadau ffraeth eu tafodau a lle'r oedd doniolwch llafar yn fwrlwm. Cymeriadau fel Jac y Peinter, Sam Parcerrig a Danny Cole, ac yn nes ymlaen parhaodd y traddodiad hwnnw gyda Gwynfor Jones a'r diweddar Eirwyn Maesyberllan.”
Cafodd Hiwmor Sir Gâr, sy'n llawn o jôcs, straeon a cherddi, ei lansio mewn noson yng Ngwesty Pen y Baedd, Caerfyrddin gyda Peter Hughes Griffiths, Don Davies, Phil Hermon a Dyfrig Davies yn diddanu. Manylion y llyfr

(13/11/2007)

Hiwmor Idris a Charles

Mewn noson fywiog yn Y Ganolfan, Bodffordd lansiwyd llyfr newydd sy'n gasgliad o jôcs Idris Charles, a'i dad, yr anfarwol Charles Williams. Mae Hiwmor Idris a Charles, yn cynnwys jôcs byr, dywediadau a straeon gan y tad a'r mab. Daeth nifer o ddiddanwyr ynghyd i dalu teyrnged i'r ddau. Roedd y gynulleidfa luosog yn eu dyblau wrth i Idris Charles, Ellis Roberts, Neville Hughes, Hogia'r Wyddfa a'r Jocars fynd trwy eu pethau ac un o uchafbwyntiau'r noson oedd perfformiad prin gan Tammy Jones.
Yn ystod y noson pwysleisiodd Idris Charles mai dweud jôcs sy'n bwysig, ac er mwyn mwynhau'r llyfr yn iawn bod yn rhaid dychmygu Charles yn eu hadrodd. Wrth sôn am ei dad dywedodd,
“Doedd neb tebyg i Chales i gael pobl i chwerthin - ar ei orau roedd wirioneddol yn gallu gwneud i bobl wlychu eu hunain gyda'i hiwmor, ei ddawn dweud a'i amseru perffaith.”
O weld ymateb y gynulleidfa yng Nghanolfan Bodffordd roedd yn amlwg bod Idris wedi etifeddu holl ddoniau dweud jôcs ei dad.
(Llun - Idris yn arwyddo copi o'i lyfr yn ystod y noson) Manylion y llyfr

(06/11/2007)

Hunangofiant Dirdynnol Chris Needs

Bydd Chris Needs yn rhyddhau ei hunangofiant mewn noson arbennig ym Mhafiliwn Porthcawl ar nos Sadwrn y 3ydd o Dachwedd. Chris Needs yw un o gyflwynwyr radio mwya poblogaidd Cymru, yn darlledu yn nosweithiol i filoedd o wrandawyr ffyddlon ar Radio Wales.
Mae Chris Needs yn datgelu am y tro cyntaf yn y llyfr Like it is sut iddo gael ei gam-drin pan yn blentyn gan gyfaill i'r teulu. Mae'n disgrifio sut iddo gael ei dreisio yn rheolaidd ac effaith hyn ar ei fywyd. Mae hefyd yn disgrifio sut iddo gael ei fwlio yn gyson wrth iddo dyfu lan yng Nghwmafan ger Port Talbot gan ei fod yn hoyw ac yn wahanol i bawb arall. Wrth drafod ei dreisiwr dywedodd Chris,
“Dwi wirioneddol yn credu fy mod fel yr ydw i nawr, yn berson anhapus sy'n trio 'ngore i guddio fy nheimlade gyda chomedi, o'i achos e.”
Mae Chris Needs yn trafod cyfnodau hapus ei fywyd hefyd sy'n cynnwys nifer o straeon doniol, cyfeillgarwch gydag enwogion a'i daith i ennill adnabyddiaeth fel pianydd o fry, canwr, diddanwr a chodwr arian i elusennau. Erbyn hyn mae clwb “Yr Ardd” ar ei sioe radio yn boblogaidd tu hwnt ac mae wedi derbyn yr MBE am ei wasanaethau i ddarlledu a'i waith dros achosion da. Mae Chris hefyd yn trafod ei gyfnod yn cyflwyno ar Radio Cymru yn ei lyfr ac yn awgrymu y byddai yn barod iawn i fynd yn ôl i ddarlledu yn Gymraeg eto petai'r cyfle yn codi. Manylion y llyfr

(30/10/2007)

Cyhoeddi Cam Olaf Darllen Mewn Dim

Mae'r Lolfa newydd ryddhau chwe cyfrol cam olaf y gyfres flaengar o lyfrau darllen i blant bach sydd wedi eu seilio ar gymeriadau Rwdlan Darllen Mewn Dim. Mae Cam Ceridwen yn cynnwys chwech o lyfrau – tair stori (Myn Brain i!, Troi Clociau a Yr Ambarél) a tair sgript drama (Y Picnic, Dal y Lleidr a Trafferth mewn Trochion). Hwn yw'r cam sy'n paratoi plant ar gyfer symud ymlaen i ddarllen Cyfres Rwdlan.
Yn gynharach eleni enillodd y gyfres prif Wobr Gwobrau Sgiliau Sylfaenol. Angharad Tomos yw awdur y llyfrau. Mae'n awdures brofiadol sydd wedi ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant ac oedolion, sgriptiau, dramâu a cholofnau.
Mae ymateb athrawon i'r gyfres wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn sgil ei phoblogrwydd a'i phwysigrwydd fel deunydd addysgol gwerthfawr, mae gwasg Y Lolfa yn awyddus i ymestyn y gyfres ymhellach. Dywedodd Heulwen Evans sy'n athrawes yn Ysgol Llanrug,
“Mae'r elfen o hiwmor a doniolwch yn factor allweddol i lwyddiant y llyfrau” ac ychwanegodd Magwen Pugh sy'n dysgu yn Ysgol Glantwymyn, “Mae'r lluniau a'r diwyg yn ddengar ac yn apelio at fechgyn a merched.”
Mae pob un o lyfrau Cam Ceridwen yn cael eu gwerthu'n unigol am £2.95. Gellir eu prynu fel pecyn o 6 llyfr am £15.95 a hefyd mae Pecyn Cyflawn Darllen Mewn Dim sy'n cynnwys 34 o lyfrau yn ogystal â phosteri a CD-Rom ar gael am bris gostyngol o £60, sef hanner y pris gwerthu arferol. Mae dau Becyn Athrawon hefyd yn cyd-fynd â'r gyfres sy'n rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio'r adnoddau i'w llawn potensial. Manylion y llyfr

(24/10/2007)

Chwedlau Chwim gan Olygydd Y Lolfa

Mae'r Lolfa newydd gyhoeddi dwy chwedl gyntaf mewn cyfres o bump llyfr a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn y Nadolig. Awdur y gyfres yw Meinir Edwards sydd newydd gychwyn gweithio fel golygydd i Wasg Y Lolfa. Maent wedi eu hanelu at blant tua 7-9 oed sy'n medru darllen yn annibynnol. Y nod yw cynhyrchu llyfrau lliwgar, bach o ran maint ond eang eu hapêl, i'w darllen yn chwim o glawr i glawr.
Mae gan Meinir Wyn Edwards 18 mlynedd o brofiad fel athrawes mewn ysgolion cynradd, ond penderfynodd droi o brysurdeb y byd addysg er mwyn dilyn trywydd gwahanol yn y byd cyhoeddi. Wedi bod yn addasu ac ysgrifennu llyfrau i blant yn ystod penwythnosau a gwyliau, mae erbyn hyn yn troi ym myd llyfrau wrth ei gwaith bob dydd. Dywedodd,
“Roeddwn wrth fy modd yn darllen a thrafod llyfrau ar lawr y dosbarth, ac mae'n braf iawn cael y cyfle i ddod â'n chwedlau gwerin Cymreig ni'n fyw i genhedlaeth newydd o blant. Rwy wedi ceisio apelio at blant o bob cwr o Gymru, at fechgyn a merched, a dod â rhyw ogwydd ffres i bob un o'r chwedlau yn y gyfres.”
Gini Wade yw arlunydd y gyfres. Mae 11 o luniau llawn lliw ym mhob un o'r llyfrau 24 tudalen o hyd ac maent yn ychwanegu at naws a mwynhad y testun bob tro. Mae hi'n byw yn Llanidloes ac yn gweithio fel DJ.
Mae Cantre'r Gwaelod a Rhys a Meinir eisoes yn y siopau ac fe fydd Dic Penderyn, Gwylliaid Cochion Mawddwy a Maelgwn Gwynedd yn cael eu cyhoeddi cyn y Nadolig. Manylion y llyfr

(10/10/2007)

Llyfr Llun a Stori yng Nghanol Byd o Eira

Mae'r llyfr yn ail mewn cyfres sy'n dilyn hynt a helynt Gwich a Draig. Y tro hwn, mae'r ddau'n mynd i fyny i'r cymylau i ddarganfod sut y mae eira'n cael ei greu ac yn cael anrheg gan Angel y Cymylau.
Mae Andrew Fusek Peters yn awdur ac yn fardd cydnabyddedig, wedi cyhoeddi dros 50 o lyfrau i blant a phobl ifainc ac wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Carnegie ddwy waith. Ef, mae'n debyg, yw'r bardd talaf ym Mhrydain (www.tallpoet.com) ac mae wedi bod yn ymweld ag ysgolion ers ugain mlynedd, gan berfformio gyda'i didgeridoo. Mae'n byw yn Swydd Amwythig gyda'i wraig Polly, sydd hefyd yn awdures.
Gini Wade yw arlunydd y gyfres. Mae wedi ysgrifennu pedwar o lyfrau i blant yn ogystal â darlunio llawer mwy. Ar hyn o bryd, mae wrthi'n paratoi gwaith celf ar gyfer cyfres o chwedlau Cymreig sy'n cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae ei harddull liwgar yn llawn manylion ac yn ychwanegu at naws a mwynhad y testun bob tro.
Yn ôl Meinir Wyn Edwards, golygydd Gwich a Draig a'r Ffatri Eira,
“Rwy wedi cydweithio tipyn gyda Gini Wade yn ddiweddar, ac mae'n sensitif iawn i anghenion yr awdur. Mae'n artist profiadol ac yn deall sut i ddod â'r testun yn fyw. Mae'r llyfr yn gyfuniad o lun a stori sy'n plethu'n berffaith gyda'i gilydd i greu cyfrol ddeniadol, hudol ar gyfer plant 3-6 oed.”
Dyma lyfr sy'n mynd i apelio at blant yn syth ar yr olwg gyntaf, ond mae neges ddyfnach y stori'n pwysleisio y gall plentyn elwa'n fwy o gael profiad newydd na chael anrheg ddrud. Ond dyma lyfr sy'n haeddu bod yn anrheg i unrhyw blentyn ar fore Nadolig. Manylion y llyfr

(02/10/2007)

Y Lolfa’n Dathlu Gyda Gwên

Cafodd Y Lolfa barti mawreddog i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu'r cwmni. Lansiwyd dau lyfr o hiwmor ysgafn, y naill gan Dewi Pws a'r llall gan Pontshân. Ac er bod Eirwyn Pontshân wedi'n gadael ni ers dros ddeng mlynedd bellach, roedd yn gwbl addas mai gweld Ryland Teifi yn dynwared Pontshân oedd uchafbwynt y noson, gan mai Hyfryd Iawn gan yr unigryw Pontshân oedd y gyfrol gyntaf i'r Lolfa ei chyhoeddi union ddeugain mlynedd yn ôl.

Meddai sefydlydd y wasg, Robat Gruffudd: “Roedd Pontshân yn cynrychioli hwyl a Chymreictod ac annibyniaeth safbwynt... fe oedd y Barnwr pan agorwyd safle newydd Y Lolfa yn hen swyddfa'r Heddlu yn Nhalybont, ac fe oedd y comedïwr ar noson dathlu pen blwydd y cwmni'n 25 oed. Yn naturiol felly, ef yw un o'r cymeriadau amlycaf ar furlun Y Lolfa yng nghanol Talybont heddi...”

Yn ogystal ag ail-fyw hiwmor Pontshân cafwyd cyfle i fwynhau dos o ffraethineb a jôcs coch Dewi Pws. Mae ei gyfrol yn cynnwys cerddi doniol o'r talwrn, jôcs tñ bach a sawl stori wir o bedwar ban byd… yn cynnwys llythyr ffug yn bygwth aelodau'r Cynulliad a'i ymgais i droi tñ Lyn Ebenezer yn westy…

Lyn Ebenezer yw golygydd y ddwy gyfrol ac maent ar werth am £3.95 mewn Siopau Llyfrau ledled Cymru. Bydd Y Lolfa yn cyhoeddi dwy gyfrol arall yn y gyfres ar gyfer y Nadolig, sef Hiwmor Sir Gar gan Peter Hughes Griffiths a Hiwmor Idris a Charles gan Idris Charles.

Llun - Staff Y Lolfa Stori lawn    Manylion y llyfr

(25/09/2007)

Meini Meirionnydd: Etifeddiaeth y Cymry

Miloedd o flynyddoedd cyn pyramidiau'r Aifft, cododd yr hen bobl feini hirion, cromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig ar hyd Ynysoedd Prydain. Erys nifer helaeth o'r cerrig hyn ar hyd ucheldir Cymru ac ym Meirionnydd mae casgliad sylweddol i'w gweld ar hyd yr arfordir, ac mae cyfrol newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yn clodfori'r trysorau hyn fel rhan bwysig o etifeddiaeth y Cymry.

Mae'r gyfrol Meini Meirionnydd gan Huw Dylan Owen a David Glyn Lewis yn cyfuno hanes, archeoleg a chwedloniaeth i archwilio rhyfeddodau cyntefig Meirionnydd a thu hwnt.

O Ardudwy yng Nogledd-orllewin yr hen sir at yr 'eglwys' yng Nghwm Maethlon yn y De, hyd at y Ddyfrdwy yn y Gogledd-ddwyrain, mae yna nifer helaeth o Feini Hirion, Cylchoedd Cerrig a Chromlechi ym Meirionnydd. Drwy gyfrwng ffeithiau, chwedlau a cherddi caiff hudolaeth y Meini eu hail-greu. Mae'r awduron wedi cerdded at bob un o'r meini hyn. Yn wir, roedd yn dipyn o bererindod iddynt. Maent wedi eu cyffwrdd i gyd ac mae lluniau lliw o bob un ohonynt yn y gyfrol newydd. Yn ôl Huw Dylan Owen: “Mae Meirionnydd yn frith o gromlechi a charneddau, a'n bwriad yn y gyfrol yw codi ymwybyddiaeth pobl Cymru o'u hetifeddiaeth gyfoethog a sicrhau fod Cymru, a Meirionnydd yn benodol, yn cael ei gydnabod yn gartref i ryfeddodau cyntefig.”

Cyhoeddir y gyfrol Meini Meirionnydd gan Huw Dylan Owen a David Glyn Lewis gan Y Lolfa ar 20 Awst. Daw'r awduron o Ddolgellau gyda David bellach yn byw yng Ngellilydan, Meirionnydd a Dylan wedi ymgartrefu yn Abertawe. Bu'r ddau'n ymchwilio hanes y meini hyn ers rai blynyddoedd gan fwynhau sawl dadl ynglyn â darllen map tra'n cerdded tuag atynt! Mae'r gyfrol yn cyfuno diddordeb y ddau mewn hanes gyda diddordeb Dylan mewn barddoniaeth a diddordeb David mewn ffotograffiaeth. Manylion y llyfr

(20/08/2007)

Tony Bianchi yn cipio Gwobr Daniel Owen

Llongyfarchiadau mawr i Tony Bianchi am ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Pryfeta. Mae'r stori yn cychwyn gyda bachgen bach chwech oed, Jim, sy'n chwarae gyda phryfed yn yr ardd yn gweld ei dad yn syrthio oddi ar do eu ty a chael ei ladd. Mae'r profiad trawmatig yma yn gychwyn ac yn graidd i'r nofel.

Cafodd y nofel ganmoliaeth uchel iawn gan ddau o'r beiriniad. Dywedodd Annes Glynn
"Mae hwn yn waith sy'n mynd a ni i faes cwbl wahanol ac yn dal i droi yn y cof ymhell ar ol ei darllen,".

Yn rhyfedd iawn datgelwyd bod y nofel oedd yn ail yn y gystadleuaeth hefyd wedi ei chyhoeddi. Cyhoeddwyd Gwylliaid Glyndwr gan Daniel Davies dair wythnos yn ol.

Bydd cyfle gwych gan Eisteddfodwyr felly i benderfynu drostynt eu hunain pa nofel oedd yn teilyngu'r wobr yn eu tyb hwy.

Mae'r ddwy nofel ar werth ar stondin Y Lolfa yn y Steddfod ac mewn siopau llyfrau Cymraeg. Stori lawn    Manylion y llyfr

(14/08/2007)

Teyrnged i'r Arlunydd Byd Enwog J Howard Beynon

Daeth llond stafell ynghyd yn yr Orendy, Aberystwyth i lansio seithfed nofel y llenor a'r darlithydd Mihangel Morgan. Mae Cestyll yn y Cymylau wedi ei ysgrifennu ar ffurf cofiant i J Howard Beynon, arlunydd byd enwog dychmygol sy'n glanhau ty bach yn Aberdyddgu (tre debyg iawn i Aberystwyth).
Fel llawer o waith Mihangel mae'r ffug-gofiant yma yn unigryw ac yn ddyfeisgar tu hwnt.
“Mae'n gryn her i ddisgrifio'r nofel,” meddai Mared Roberts o'r Lolfa, “, ond dwi'n credu yn sicr y bydd darllenwyr yn cael eu plesio. Mae celf Howard Beynon yn cynnal y stori gyda chyfres o straeon byrion o fewn y nofel yn disgrifio bywydau pobl sy'n cael eu cyffwrdd ganddo a'r ffenomena sydd o'i amgylch; hefyd hanesion rhyfeddol am artistiaid tebyg i Beynon. Mae hi'n nofel arbrofol yn ei ffurf ond dwi'n siwr y gwnaiff pobl ei mwynhau'n fawr.”
Yn ogystal â bod yn noson lansio hwyliog roedd yn noson ffarwelio i Mared Roberts, fydd yn gadael Y Lolfa ar ôl saith mlynedd fel golygydd. Bydd Mared, sydd wedi golygu chwech o lyfrau Mihangel, yn symud i Gaerdydd yn yr haf gyda'i theulu ifanc. Meinir Wyn Edwards o Landre sydd wedi camu i'w sgidiau yng Ngwasg Y Lolfa.

Llun: Mared Roberts (cyn-olygydd Y Lolfa), Mihangel Morgan a Meinir Wyn Edwards (golygydd newydd Y Lolfa) yn ystod y lansiad yn yr Orendy. Manylion y llyfr

(19/07/2007)

Huw T: Prif Weinidog Answyddogol Cymru Yn Pontio’r Coch a’r Gwyrdd

Yng nghanol yr holl drafod am glymbleidio coch a gwyrdd ym Mae Caerdydd, mae cyfrol newydd yn nodi cyfraniad arloesol y gwleidydd a wnaeth sefydlu'r Cynulliad yn bosib – gwleidydd a fu'n rhan o ymgyrchoedd Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn ystod ei oes ac a gafodd ei adnabod fel 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru' – Huw T Edwards.

Disgrifiwyd Huw T fel 'the complete Welshman', 'the truly representative Welshman', a 'Chymro mwyaf cyffrous ei ddydd', a threuliodd ran fawr o'i fywyd yn ymgyrchu dros Senedd i Gymru. Yn ôl Gwyn Jenkins, awdur y gyfrol Prif Weinidog Answyddogol Cymru: “Roedd cyfraniad Huw T i ddatblygiad Cymru fel cenedl yn yr ugeinfed ganrif yn eithriadol o bwysig, a thra gwahanol fyddai'r broses o ddatganoli oni bai am ei gyfraniad ef.”

Yn niwedd 1940au penodwyd Huw T yn gadeirydd ar Gyngor Cymru – corff diddannedd a sefydlwyd gan y Blaid Lafur, ac ymgyrchodd yn ddygn o hynny ymlaen dros Senedd i Gymru gan geisio uno'r pleidiau dros achos datganoli. Yn 1959, mewn rhwystredigaeth gydag agwedd y Blaid Lafur at ddatganoli ymunodd â Phlaid Cymru, cyn mynd yn ôl at Lafur yn 1964.

Yn ôl Gwyn Jenkins: “Roedd ei ymlyniad at iaith a diwylliant ei genedl yn ddi-ball… ac er yn sosialydd o argyhoeddiad ac yn genedlgarwr pybyr, roedd yn ddigon eangfrydig i fanteisio ar bob cyfle i gydweithio'n adeiladol ar ran y genedl.”

Lansiwyd y gyfrol Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards gan Y Lolfa ar nos Wener 13 o Orffennaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Daw'r awdur Gwyn Jenkins o Benparcau, Aberystwyth, ond mae bellach yn byw yn Nhalybont. Ef yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ef oedd golygydd y gyfrol, Llyfr y Ganrif.

(Llun - Gwyn Jenkins yn arwyddo copiau o'i gofiant i Huw T Edwards yn ystod y lansiad) Stori lawn    Manylion y llyfr

(16/07/2007)

Llwyd Owen yn Cipio Gowbr Llyfr y Flwyddyn

Mewn seremoni yn yr Hilton yng Nghaerdydd cyhoeddwyd mai Ffydd Gobaith Cariad yw Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, 2007. Yr awdur yw Llwyd Owen a ddywedodd y bydd yn defnyddio'r £10,000 o wobr i brynu 'camper van'!
Mae Ffydd Gobaith Cariad yn nofel sy'n archwilio themâu megis marwoldeb, brad a chyfeillgarwch mewn ffordd onest a dirdynnol gan godi cwestiynau am gredoau, crefydd a chariad.
Mae llawer o'r deunydd yn seiliedig ar yr hyn dystiodd yr awdur wrth wylio ei fam-gu'n diodde ar ei gwely angau. Yn ôl Llwyd: “Roedd Kitty'n ffeindio lot o gysur yn ei chrefydd, yn enwedig yn ystod ei blynyddoedd diwethaf, a 'naethon ni drafod pynciau dwys fel byw a marw, cariad a cholled, yn ogystal a'i hatgofion yn aml. Heb os, mae hi wedi ysbrydoli rhannau helaeth o'r nofel, ac mae'r llyfr yn rhyw fath o deyrnged iddi hi.”
Mae'r awdur hefyd yn datgelu fod bywyd Alun Brady, prif gymeriad y nofel, yn adlewyrchu rhai agweddau o'i fywyd e, gydag Alun yn ffeindio gwaith yn nhafarn y Three Arches, Caerdydd, fel nath Llwyd rhyw ddegawd yn ôl. Yn ogystal, mae ambell i chwedl deuluol yn lliwio'r hanes â bysedd coll Spencer Owen, tad-cu Llwyd, yn gwneud ymddangosiad.
Bydd Y Lolfa yn cyhoeddi trydedd nofel Llwyd Owen ar gyfer y Dolig.

Dyma'r drydedd flwyddyn o'r bron i gyfrol gan Y Lolfa gipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae Llwyd Owen yn dilyn ol traed dau awdur ifanc disglair arall sef Rhys Evans a Caryl Lewis. Stori lawn    Manylion y llyfr

(11/07/2007)

Anwybodaeth am Draddodiad Cerddorol Cymru yn ‘Rhemp’

Mae anwybodaeth y Cymry am eu traddodiad cerddorol hwy eu hunain yn rhemp, yn ôl Arfon Gwilym, un o ffigyrau amlyca'r byd canu gwerin yng Nghymru ac awdur llyfr ar y pwnc a gyhoeddir gan Y Lolfa. “Rwy'n dod ar draws pobl yn gyson – hyd yn oed o fewn y byd gwerin Cymreig – nad yw enwau fel Bob Roberts Tai'r Felin neu Nansi Richards yn golygu dim iddynt,” meddai. “Mae hon yn sefyllfa gywilyddus ac mae angen ymgyrch fawr genedlaethol i adfer hunan barch ac i sicrhau bod Cymru unwaith eto yn medru dal ei phen yn uchel ar lwyfannau rhyngwladol yn y byd cerddoriaeth draddodiadol.”
Rhan o'r broblem yw'r diffyg diddordeb cyffredinol (er fod rhai eithriadau) ymysg y cyfryngau a sefydliadau eraill Cymreig yn ôl Arfon. “Mae angen newid agweddau fel bod ein diwylliant traddodiadol o leiaf yn cael lle cyfartal ar ein cyfryngau radio a theledu, ac o fewn ein holl sefydliadau diwylliannol ac addysgol.”
Mae'r Eisteddfod hefyd yn rhan o'r broblem: “Pa argraff tybed a fyddai dyn o Mars yn ei gael o lanio yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Byddai'n sylwi ar iaith wahanol, bid siwr, ond dim llawer mwy na hynny. Ni allai lai na sylwi fod y rhan fwyaf o'r wythnos wedi ei gerio i hybu pobl ifanc un ai i fod yn seren opera, yn seren sioe gerdd neu yn seren roc… Mae llawer ohonom wedi treulio'n hoes yn brwydro ac yn ymgyrchu dros yr iaith o fewn gwahanol fudiadau. Ond hyd y gwn i nid oes yr un o'r mudiadau hynny wedi aros i ystyried natur y diwylliant yr ydym yn brwydro drosto.”
Mae'r awdur a'r canwr gwerin yn gwneud y sywladau hyn wrth gyhoeddi ei gyfrol newydd ar hanes y traddodiad cerddorol Cymreig, Cerddoriaeth y Cymry a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa. Ond er yn gweld talcen caled o ran hybu'r traddodiad gwerin, mae hefyd yn gweld rhai arwyddion gobeithiol ar hyn o bryd: “Mae'r mudiadau Trac a Clera bellach yn hybu offerynau a cherddoriaeth Gymreig ac mae'n wych o beth fod Ty Siamas bellach wedi ei sefydlu yn Nolgellau fel canolfan genedlaethol. Ond mae ffordd bell i fynd, ac rydym dal ar ei hôl hi o'i gymharu a'r Alban dyweder, lle mae miloedd o bobl ifanc yn ymuno â mudiad sy'n cyplysu'r iaith Aeleg a cherddoriaeth draddodiadol.”
Daw Arfon Gwilym o gyffiniau Dolgellau. Treuliodd dalp o'i oes yn Sir Drefaldwyn ac mae'n byw ar hyn o bryd yn Rachub, Bethesda . Mae'n ganwr gwerin a cherdd dant ac yn ysgrifennydd Clera, y gymdeithas sy'n hybu offerynau traddodiadol Cymreig. Manylion y llyfr

(05/07/2007)

Lle Mae’r Meibion Glyndwr Newydd?

Yn y Gymru sefydliadol gyda'i Senedd newydd yng Nghaerdydd, cwestiwn nad yw'n cael ei ofyn yn aml yw lle mae ymgyrchwyr a phrotestwyr yr oes hon? Ym marn yr awdur Daniel Davies sydd ar fin cyhoeddi ei drydydd llyfr, Gwylliaid Glyndwr, mae'n ymddangos fod y syniad o brotestio a gweithredu yn erbyn y sefydliad i bob pwrpas wedi dod i ben yn ystod y pymtheg mlynedd diwetha: “Gyda'r Cynulliad a'i holl beirianwaith mae'n ymddangos i fi ein bod ni'n cael asmer rhy gyfforddus i brotestio erbyn hyn – sefyllfa go wahanol i ugain mlynedd yn ôl pan oedd ymgyrchwyr a phrotestwyr llawer parotach i ymladd dros annibyniaeth a Deddfau Iaith newydd.

Mae'n cyfadde fod y newid yma wedi bod yn rhan o'i ysgogiad i ysgrifennu'r nofel, sydd am griw o'r ymylon sy'n cael eu gwthio i weithredu'n eithafol yn enw mudiad o'r enw Gwylliaid Glyndwr er mwyn ceisio dwyn Llythyr Pennal yn ôl i Gymru. Meddai Daniel: “Nofel ysgafn, gomedi yw Gwylliad Glyndwr. Er hynny dwi'n gobeithio bydd na bethau am y wlad a'i sefydliadau heddiw yn taro tant gyda darllenwyr.”

Daw'r awdur Daniel Davies o Llanarth ac mae'n gweithio i'r BBC yn Aberystwyth. Dyma'i drydydd llyfr gyda'r Lolfa yn dilyn Pele Gerson a'r Angel a Twist ar Ugain. O ran dylanwadau, meddai Daniel: “Ma raid gweud mod i'n mwynhau stwff dychanol awduron fel Eirug Wyn a Jaroslav Hasek. Yn y llyfr yma does dim gwadu bu gwaith Tibby Clarke (The Lavender Hill Mob), William Rose (The Ladykillers) a Troy Kennedy Martin (The Italian Job) yn dipyn o ddylanwad ar y 'caper' comic hwn”.

Dewiswyd Gwylliaid Glyndwr i fod yn Nofel y Mis ar gyfer mis Mehefin o dan gynllun hyrwyddo Cyngor Llyfrau Cymru. Mae'r nofel hefyd wedi ei lleoli union chwe chan mlynedd ers ysgrifennu llythyr Pennal, ac yn gyfraniad unigryw i nodi can mlwyddiant sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle lleolwyd sawl golygfa ddifyr yn y gyfrol. Manylion y llyfr

(14/06/2007)

Llythyrau D. J. – mwy o ‘Annwyl Kate, Annwyl Saunders’

Pan gyhoeddwyd y gyfrol Annwyl Kate, Annwyl Saunders bymtheg mlynedd yn ôl, fe'i hystyriwyd yn un o'r llyfrau mwyaf dadlennol erioed am fywydau dau o brif lenorion Cymru. Ac yn ôl Saunders Lewis ei hun “Nid oes gwell llythyrau, na diddanach” na rhai Kate Roberts.

Eleni fe gyhoeddir detholiad arall o lythyrau Kate a Saunders - a hynny o gasgliad D. J. Williams, a oedd yn llythyrwr eithriadol o ffraeth ei hun, ac yn un o gyfeillion pennaf y ddau. Mae'r ohebiaeth rhyngddynt yn para dros hanner canrif ac yn dadlennu'r drafodaeth ddifyr am weithiau llenyddol ei gilydd a'r dadlau ynghylch datblygiadau gwleidyddol cyffrous y cyfnod yr oeddent mor ganolog yn ei lywio.

Dywed Emyr Hywel mae'r hyn sy'n taro rhywun am y llythyrau yw “eu ffyddlondeb anhygoel i Gymru a'u haberth dros y ddelfryd o Gymru rydd. Dyma gorff o ohebiaeth ddiddan, wefreiddiol ac amrywiol a fydd yn ehangu ein gwybodaeth am gyfnod unigryw yn hanes Cymru.”

Mae'r ohebiaeth yn dechrau cyn sefydlu'r Blaid Genedlaethol ac yn dilyn hynt a helynt eu bywydau proffesiynol a phersonol, yn cynnwys sawl ffrae annisgwyl. Detholwyd y llythyrau o gasgliad D.J. yn y Llyfrgell Genedlaethol a chynhwyswyd 58 o lythyrau Kate at D.J. a 48 o lythyrau D.J. at Kate. Cynhwyswyd 100 o lythyrau Saunders at D.J., ond dim ond saith o lythyrau D.J. at Saunders a gadwyd. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys rhagymadrodd cynhwysfawr gan olygydd y gyfrol, Emyr Hywel sydd newydd gwblhau M.Phil. ar fywyd a gwaith D.J. Williams ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Daw'r awdur o Flaenporth, Ceredigion. Mae'n gyn-brifathrol ysgol Tre-groes a chyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth a storïau i blant. Manylion y llyfr

(10/05/2007)

Cydnabyddiaeth am Gyfraniad i'r Byd Llyfrau

Ar ddiwedd Gwyl Bedwen Lyfrau 2007 a gynhaliwyd yn Galeri Caernarfon ar Ddydd Sadwrn y 5ed o Fai cyflwynwyd tlws newydd am gyfraniad oes i'r byd llyfrau yng Nghymru. Gwyn Tomos oedd cadeirydd y pwyllgor oedd yn trafod yr enwebiadau a phenderfynwyd cyflwyno'r wobr i Robat Gruffudd o'r Lolfa am ei gyfraniad dros y deugain mlynedd diwethaf fel sylfaenydd Y Lolfa ac fel awdur. Yn ogystal â chlodfori llewyrch y byd llyfrau yng Nghymru diolchodd Robat i'w wraig Enid am ei hamynedd ac am ei chymorth pan sefydlwyd Y Lolfa. Ym mis Medi eleni bydd Y Lolfa yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed mewn parti mawreddog yn Aberystwyth.

Yn y llun gwelir Myrddin ap Dafydd yn cyflwyno'r wobr i Robat ar ran Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, trefnwyr yr Wyl. Stori lawn   

(09/05/2007)

Straeon Rhyfeddol Meddyg

Daeth dros 250 o bobl ynghyd yn neuadd Penrhiwllan, ger Llandysul i lansiad Anodd Credu hunangofiant y meddyg Gerwyn Elias. Yn ystod y lansiad darllenwyd pytiau o'r gyfrol a cafodd Gerwyn Elias gyfle i gyflwyno copïau o'r gyfrol i rai o'r cleifion a wellhawyd yn wyrthiol ganddo.
Yn ogystal â rhoi cip ar ei yrfa ddisglair mae'r gyfrol yn llawn o anecdotau difyr ac anhygoel o'i yrfa fel meddyg. Mae'n agor y llen ar achosion rhyfeddol, o'r dwys i'r doniol a'r trychinebus, er enghraifft stori dynes 60 oed oedd yn mynnu ei bod yn disgwyl plentyn, a hanes dynes ifanc na allai fwyta ar ôl gweld ffrind iddi'n marw wrth dagu ar sglodion. Heblaw profi'r llawenydd wrth achub bywydau gwelodd Gerwyn Elias hefyd fywydau ifanc yn cael eu colli. Y mae'n trafod materion meddygol anodd mewn modd gonest a threiddgar. Mae ganddo hefyd nifer o gynghorion ar sut i fyw yn iach a sut i ymestyn bywyd. Mae'n gorffen y llyfr drwy sôn am hypnosis, ewthanasia a phwysigrwydd cael diddordebau i iechyd meddwl dyn. Sonia am bedwar cyffur defnyddiol i ymestyn bywyd cyn cloi wrth glodfori rhinweddau siocled.
Yn un o ddisgynyddion teulu'r Cilie cafodd Gerwyn Elias yrfa ddisglair gan ennill Medal Aur mewn Llawfeddygaeth yn Ysgol Feddygol Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio mewn nifer o ysbytai blaenllaw. Yna bu'n feddyg teulu poblogaidd ym Mhenarth am 34 o flynyddoedd.
(Yn y llun gwelir Gerwyn Elias yn mwynhau cwmni rhai o'r gwahoeddeidgion yn y lansiad) Stori lawn    Manylion y llyfr

(30/05/2007)

Darllen Mewn Dim yn Ennill Gwobr

Ennillodd cyfres Darllen Mewn Dim gwobr y Prif Enillydd yng nghinio Gwobrau Sgiliau Sylfaenol a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Roedd holl aelodau'r panel yn cytuno fod y gyfres hon yn adnodd ardderchog ar gyfer gwella sgiliau sylfaenol disgyblion oedran cynradd. Ym marn y beirniaid, roedd y defnydd o liw yn y llyfrau'n ddeniadol a hoffwyd y defnydd effeithiol o ailadrodd er mwyn cynorthwyo'r plant i ddeall cystrawennau brawddegau.
Mae Darllen Mewn Dim yn becyn o adnoddau wedi eu hanelu at Cyfnod Allweddol 1. Fe'u cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Cyhoeddiadau CBAC a'u noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n cynnwys 7 cam sy'n cynnwys posteri, cardiau a llyfrau. Angharad Tomos, gyda'i chyfuniad o ddychymyg rhyfeddol a chyfoeth iaith ac idiom, yw awdur y deunydd darllen bywiog ac Anwen Owen o gwmni Cynnal sy'n gyfrifol am y Llawlyfr Athro.

Dyma sylwadau rhai athrawon ysgol profiadol am y gyfres:

“Mae'r storiâu yn destun trafodaeth ddiddorol bob tro. Hefyd mae'r elfen o hiwmor a doniolwch yn ffactor allweddol i lwyddiant y llyfrau.” - Heulwen Evans, Ysgol Llanrug

“Mae'r Pecyn Athrawon yn drysor - bydd wrth fy mhenelin yn ddyddiol o hyn allan.” - Marged Cross, Ysgol Sant Curig, Y Barri

“Mae'r gyfres yma wedi bod yn wyrthiol o ran denu plant i ddarllen gyda bechgyn sydd heb fod â diddordeb mewn llyfrau cyn hyn yn llamu mlaen efo'u darllen ers i'r gyfres yma ymddangos.” - Magwen Pughe, Ysgol Glan Twymyn

(Yn y llun gwelir gynrychiolwyr o'r Lolfa ac @tebol - enillodd @tebol wobrau am eu cynnyrch addysgol)

Taflen hyrwyddo cyfres Darllen Mewn Dim (2.5MB) Stori lawn    Manylion y llyfr

(23/04/2007)

Lansio'r Gemydd Mewn Siop Emau

Lansiodd Y Lolfa nofel ddiweddaraf Caryl Lewis, Y Gemydd yn Oriel Siop Emau Rhiannon Tregaron. Cafodd y gynulleidfa luosog gyfle i wrando ar sgwrs ddifyr rhwng Alun Jones, golygydd Y Lolfa a Caryl.
Wedi llwyddiant ei nofel ddiwethaf, Martha Jac a Sianco, mae Caryl wedi gosod y bar yn uchel iawn iddi hi ei hun ar gyfer ei trydedd nofel, Y Gemydd. Stori yw hi am gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas, a'r prif gymeriad Mair sy'n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai, nes y daw un em i drawsnewid ei bywyd yn llwyr. Yn ystod y lansiad cyfaddefodd Caryl fod y nofel wedi ei seilio ar ddwy dref sef Aberaeron a Chaerfyrddin, a rhannodd ei phrofiadau difyr wrth iddi wneud gwaith ymchwil trylwyr i gefnir y nofel gan esbonio arwyddocad rhai o'r gemau, y cymeriadau a'r lleoliadau sy'n ymddangos yn y llyfr.

Meddai golygydd y nofel Alun Jones o'r Lolfa,

“Mae hon yn nofel sy'n llawn symbolaeth, sy'n gweithio ar sawl lefel ac yn rymus dros ben. Mae gan Caryl ddawn arbennig wrth greu cymeriadau dwys, diddorol a'i gosod o fewn lleoliad credadwy. Ochr yn ochr â'i dawn dweud, mae'r defnydd o dafodiaith Ceredigion a'r holl waith ymchwil sy'n mynd i mewn i'w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei fwynhau.” Stori lawn    Manylion y llyfr

(11/04/2007)

Tri Diwrnod ym Mwdapest

Gyda'r twf cyffredinol yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Cymraeg fe welwyd hefyd gynnydd yn y nifer o nofelau Cymraeg ar eu cyfer. Am y tro cyntaf cyhoeddir cyfres o nofelau sy'n gosod geirfa ar ymyl y dudalen – a hynny yng nghyfres y Golau Gwyrdd gan wasg Y Lolfa.

Y nofel gyntaf yn y gyfres oedd Y Ty ar Lon Glasgoed gan Sonia Edwards, ac ar Fawrth 20 cyhoeddir yr ail lyfr yn y gyfres sef Budapest gan Elin Meek. Yn ôl Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa: “Y bwriad yw datblygu'r gyfres i fod fan cychwyn i ddysgwyr ddechrau darllen nofelau Cymraeg mewn modd hylaw a difyr, gan obeithio y bydd y profiad yn eu harwain i ddarllen mwy…”

Mae Budapest yn stori o gyffro ac atgofion yn ystod tri diwrnod yn y ddinas honno wedi ei ysgrifennu gan yr awdures brofiadol Elin Meek. Yn ôl Elin: “Dw i wrthi'n dysgu Sbaeneg ar hyn o bryd, felly dw i'n gweld bod cael geirfa ar ymyl y ddalen yn hwylus dros ben – does dim rhaid torri ar draws y darllen a mynd i chwilio yn y geiriadur o hyd!”

Mae Elin Meek yn addasydd ac yn awdur profiadol, ac mae'n byw yn Abertawe. Cafodd ei magu yn Ystalyfera a Chaerfyrddin. Manylion y llyfr

(16/03/2007)

Straeon Sydyn

Mae'r Lolfa newydd gyhoeddi pedair cyfrol fel rhan o gynllun Straeon Sydyn. £1.99 yn unig yw pris y cyfrolau sydd wedi cael eu sgwennu gan rai o brif awduron Cymru. Nod y cynllun yw cynnig llyfrau byr a chyffrous gan awduron poblogaidd ar gyfer pobl sydd wedi colli'r arfer o ddarllen neu sy'n chwilio am lyfr i'w ddarllen yn sydyn.

Yn y llun mae Caryl Lewis yn darllen ei nofel fer Y Rhwyd am ddyn sy'n dablo gyda gwefannau i gyplau sydd yn chwilio am affer. Ar y 5ed o Ebrill bydd Y Lolfa yn cyhoeddi nofel arall (tipyn hirach) gan Caryl, sef Y Gemydd am stondinwyr sy'n gweithio mewn marchnad mewn tre glan mor.

Y tair cyfrol arall yn y gyfres Straeon Sydyn yw:

Os Mêts – Bethan Gwanas
Tacsi i'r Tywyllwch - Gareth F Williams
Y Jobyn Gorau yn y Byd – Gary Slaymaker

Mae'r gyfres Straeon Sydyn yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru Manylion y llyfr

(06/03/2007)

Cymodgion o Uffern?

Bydd Mike Parker, awudr Rough Guide to Wales ar daith o gwmpas Cymru dros dymor San Ffolant gyda'i neges amserol “Câr dy Gymydog”. Bydd yn hyrwyddo ei lyfr newydd Neighbours from Hell? sy'n trafod agweddau'r Saeson tuag at y Cymry dros y canrifoedd. Yn ogystal a chyflwyno enghreifftiau o wawd, o ormes ac o sterioteipio sarhaus o'r Cymry gan bobl fel Anne Robinson, bydd yn trafod ei weledigaeth o weld Cymru a Lloegr yn byw fel cymdogion aeddfed cymodlon yn y dyfodol.

Iau 22 o Chwefror, 7:30, Palas Print, Caernarfon
*Gwener 2 o Fawrth, 6:00, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth – Sgwrs a sleids

* Myneidad trwy docyn, ar gael o'r Lolfa neu Y Llyfrgell Genedlaethol

Neighbours from Hell? English Attitudes to the Welsh – Mike Parker
£7.95, 086243 6117 Stori lawn    Manylion y llyfr

(19/02/2007)

Berwi a Ffrwydro

Mae deunydd addysgol newydd ar fin siglo dosbarthiadau Cymraeg ledled Cymru, Berw'r Byd gan Meinir Ebbsworth (Y Lolfa).

Pecyn ar gyfer disgyblion ar lefelau gwahanol, blynyddoedd 7, 8 a 9 yw Berw'r Byd ac mae'n cynnwys cyfrol o ddeunydd ffeithiol ar themâu Dyddiau Glas, Tân ac Ynysoedd, cyfrol o ddeunydd ffuglen ar themâu Dyddiau Glas, Ar Dân ac Ynysig a CD-Rom.

'Rydyn ni'n gobeithio y bydd y deunydd yn addas i'w ddefnyddio i osod gwaith i'w gynnwys mewn portffolio Cyfnod Allweddol 3.' meddai Alun Jones, golygydd Y Lolfa. 'Mae Meinir wedi paratoi'r deunydd i gefnogi datblygu sgiliau llafar, darllen, ysgrifennu a meddwl. Cafodd y gwaith ei dreialu mewn ysgolion ac mae wedi derbyn ymateb gwresog.'

Mae'r cyfrolau mewn lliw llawn a'r CD-Rom wedi ei greu i'w ddefnyddio ar fwrdd gwyn rhyngweithiol ac yn cynnwys 150 tudalen o ddeunydd a delweddau perthnasol sy'n atgyfnerthu'r gweithgareddau yn y cyfrolau.

'Mae'r gwaith ar themâu difyr a chyfoes ac yn ferw o bynciau perthnasol i bobl ifanc ac o ddyluniad lliwgar a deinamig. Rwy'n gobeithio y caiff ei groesawu mewn ysgolion.' meddai Alun Jones.

Mae awdur y deunydd, Meinir Ebbsworth, yn byw yn Llanwnen gen Llambed ac yn ymgynghorydd rhan amser i Awdurdod Addysg Ceredigion. Ymhlith y deunydd addysgol y mae wedi ei gyhoeddi eisoes mae Sgil, Sbardun, Llyfrau Darllen Clic a llawlyfrau athrawon Pen Dafad 1 a Dramâu'r Drain.


Berw'r Byd gan Meinir Ebbsworth
Cyfrol Ffeithiol (9780862439620) £6.95
Cyfrol Ffuglen (9780862439613) £6.95
CD-Rom (9780862439668) £9.95
Pecyn Berw'r Byd (9780862439637) £19.95 Manylion y llyfr

(07/02/2007)

Emyr Llew yn Cyflwyno Theamau ein Llen

Y mis hwn gwelir cyhoeddi cyfrol gan Emyr Llywelyn yn trafod y prif syniadau sy'n treiddio drwy lenyddiaeth Gymraeg gyfoes – Themâu ein Llên (Y Lolfa).

'Dyma gyfrol sydd wedi ei chreu'n benodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Safon A, ond a fydd, rwy'n siwr, yn ddeunydd darllen difyr i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg gyfoes a beirniadaeth lenyddol.' meddai Alun Jones o'r Lolfa.

Canolbwyntir ar waith pedwar awdur, sef Caryl Lewis, Mihangel Morgan, Eleri Llywelyn Morris a Geraint Vaughan Jones, a thrwy edrych ar eu gwaith, mae'r awdur yn astudio nodweddion eu harddull, yn trafod genrau, techneg naratif, plot ac adeiladwaith, cymeriadaeth, yn ogystal â themâu. Cynhwysir cyfweliad treiddgar gyda'r pedwar awdur a rhestrir gweithiau llenorion eraill, Cymraeg a rhyngwladol.

'Bydd y gyfrol hon yn cael croeso mawr gan fyfyrwyr llenyddiaeth Gymraeg ledled Cymru, rwy'n siwr,' meddai Alun Jones, 'mae'n tu hwnt o ddifyr a defnyddiol. Mae'r gweithiau llenyddol wedi eu gosod o fewn themâu penodol a cheir rhestr o lyfrau pellach i'w darllen y gall myfyrwyr droi atynt. Bydd ganddynt felly stôr o wybodaeth ar ystod eang o themâu.'

Bu Emyr Llywelyn, awdur y gyfrol yn athro Cymraeg am ddegawdau. Mae'n enwog fel ymgyrchydd dros yr iaith a golygydd Y Faner Newydd. Mae'n byw yn Ffostrasol yng Ngheredigion. Manylion y llyfr

(25/01/2007)

Yr Unig Ffotograffydd yn y Pentre

Ar nos Fawrth y 19fed ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid lansiwyd Camera'r Cymro sef casgliad o luniau'r ffotograffydd o Lenddewi Brefi Raymond Daniel. Cafwyd sioe sleidiau yng ngofal Lyn Ebeneser, awdur geiriau'r gyfrol. Roedd yn noson hwyliog dros ben wrth iddo adrodd y storiau doniol a difyr y tu ôl i luniau rhai o'r enwogion sy'n ymddangos yn y gyfrol fel Richard Burton, Ryan, John Charles a chymeriadau ardal Bont a Llanddewi.
Ers canol y chwedegau bu Raymond Daniel yn cofnodi digwyddiadau ym myd adloniant, gwleidyddiaeth a chwaraeon Cymru gyda'i gamera Nikon. Bu hefyd drwy ei waith gyda'r Cymro, Y Cambrian News a Lol yn portreadu cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru. Ymhlith ei luniau enwocaf mae'r llun o Eirwyn Pontshan yn yfed potel o laeth sydd ar furlun Y Lolfa, lluniau o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, steddfodau a gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol a lleol. Pris Camera'r Cymro, sy'n gyfrol clawr caled, yw £19.95.

Llun: Lyn Ebeneser gyda chopi o Camera'r Cymro Stori lawn    Manylion y llyfr

(21/12/2006)

Cofio Lewis Valentine

Eleni, 70 mlynedd ers y Tân yn Llyn yn 1936, ac 20 mlynedd ers marwolaeth Lewis Valentine yn 1986, cyhoeddir y cofiant cyflawn cyntaf i'r Cymro mawr yma. Yn ôl Gwynfor Evans yr oedd Lewis Valentine yn 'ymgorfforiad o'r gorau ym mywyd y genedl", ac yn sicr yr oedd yn o genedlaetholwyr Cymraeg ac arweinwyr Cristnogol mwyaf yr ugeinfed ganrif. Mewn cofiant darllenadwy a thrylwyr mae Arwel Vittle yn dilyn llwybr Valentine o Landdulas, ger Abergele i erchylltra ffosydd y Rhyfel Mawr yn Fflandrys, sefydlu Plaid Cymru yn 1925, a charchar Wormwood Scrubs am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth.

Roedd bywyd Valentine yn ymestyn o'i eni yn 1893 mewn oes pryd oedd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth ac Anghydffurfiaeth ar ei chryfaf yng Nghymru, hyd at Refferendwm 1979 a llywodraeth Margaret Thatcher. Yn y cofiant hwn trwy gyfrwng hanes bywyd Valentine croniclir rhai o ddigwyddiadau arwyddocaol y mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif - o ddylanwad Cymru Fydd a Lloyd George, y Rhyfel Byd Cyntaf, awr anterth a dirywiad Anghydffurfiaeth, sefydlu'r Blaid Genedlaethol, llosgi Ysgol Fomio Penyberth a brwydrau Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au a'r 1970au hyd at sefydlu S4C yn yr 1980au.

Yn ogystal â bod yn genedlaetholwr amlwg roedd Valentine hefyd yn un o weinidogion mwyaf Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Ac mae'r gyfrol yn edrych ar y dylanwadau mawr arno fel Cristion yn cynnwys ei fagwraeth yng nghapel Bethesda Llanddulas, ei heddychiaeth a'i ddiwinyddiaeth, a'i ddadansoddiad treiddgar o argyfwng Anghydffurfiaeth ar dudalennau Seren Gomer.

Trwy ddefnyddio ffynonellau heb eu cyhoeddi o'r blaen - dyddiaduron gwreiddiol a gadwodd Valentine yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gohebiaeth bersonol rhyngddo â'i deulu a'i gyfeillion D J Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts - edrychir ar y dylanwadau crefyddol, gwleidyddol a phersonol a ffurfiodd ei gymeriad, a'r argyhoeddiadau a'r egwyddorion, a throeon yr yrfa a'i harweiniodd i weithredu fel y gwnaeth.

Dywed Arwel Vittle, yr oedd ei nain yn chwaer i Lewis Valentine, “Mae'n siwr bod y cyswllt teuluol yn un o'r rhesymau dros fynd ati i ysgrifennu'r cofiant. Ond y prif gymhelliad oedd awydd i gael cofnod manwl a chywir o hanes bywyd un o genedlaetholwr mwyaf Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Efallai bod tueddiad ynom yn dilyn holl gyffro sefydlu'r Cynulliad i anghofio gymaint o frwydro y bu'n rhaid i genedlaetholwyr ei wneud i gael hyd yn oed ychydig o hawliau gwleidyddol a ieithyddol i Gymru. Mae'r cofiant yma yn un ffordd o atgoffa ein hunain pa mor bell ry'n ni wedi dod, ac i beidio â llaesu dwylo dros y pethau yr oedd Valentine yn credu ynddynt.” Manylion y llyfr

(07/12/2006)

Cwestiynau am Ffydd yn dilyn Ffawd

Mae Llwyd Owen, yr awdur a ddaeth i'r amlwg wrth gyhoeddi un o nofelau mwya dadleuol a meistrolgar yr iaith Gymraeg ym mis Mawrth eleni, newydd ryddhau ail nofel yr un mor ysgytwol a phwerus â Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.

Teitl y nofel newydd yw Ffydd Gobaith Cariad ac mae hi'n archwilio themâu megis marwoldeb, brad a chyfeillgarwch mewn ffordd onest a dirdynnol gan godi cwestiynau am gredoau, crefydd a chariad.

Mae llawer o'r deunydd yn seiliedig ar yr hyn dystiodd yr awdur wrth wylio ei fam-gu'n diodde ar ei gwely angau. Yn ôl Llwyd: “Roedd Kitty'n ffeindio lot o gysur yn ei chrefydd, yn enwedig yn ystod ei blynyddoedd diwethaf, a 'naethon ni drafod pynciau dwys fel byw a marw, cariad a cholled, yn ogystal a'i hatgofion yn aml. Heb os, mae hi wedi ysbrydoli rhannau helaeth o'r nofel, ac mae'r llyfr yn rhyw fath o deyrnged iddi hi.”

Mae'r awdur hefyd yn datgelu fod bywyd Alun Brady, prif gymeriad y nofel, yn adlewyrchu rhai agweddau o'i fywyd e, gydag Alun yn ffeindio gwaith yn nhafarn y Three Arches, Caerdydd, fel nath Llwyd rhyw ddegawd yn ôl. Yn ogystal, mae ambell i chwedl deuluol yn lliwio'r hanes â bysedd coll Spencer Owen, tad-cu Llwyd, yn gwneud ymddangosiad. Roedd "hen ddyn doeth y teulu" yng Nghaffi Clonc, Caerydd, i weld y nofel yn cael ei lansio (gweler y llun o Llwyd yn cyflwyno copi o Ffydd i Spencer Owen). Stori lawn    Manylion y llyfr

(04/12/2006)

Arwr Lleol yn Dwad Adra

Roedd Gwesty'r Fic ym Mhorthaethwy yn orlawn wrth i'r hogyn lleol a hyfforddwr blaenwyr y tîm cenedlaethol Robin McBryde ddychwelyd i Fôn er mwyn hyrwyddo ei hunangofiant, Y Cymro Cryfa.

Daeth teulu, ffrindiau a chyd-chwaraewyr at ei gilydd ar gyfer y lansiad - gymaint fel i'r llyfrau werthu allan erbyn diwedd y noson!

Wrth i'r rhai hynny oedd digon lwcus i gael gafael ar gopi giwio i gael llofnod cyn-fachwr y Sgarlets, Cymru a'r Llewod, ymysg uchafbwyntiau'r noson oedd sesiwn cwestiwn ac ateb a darlleniadau o'r llyfr gan dad Robin, John, a'i fab hynaf Billy, 10 a fynychodd y digwyddiad ynghyd â'i frawd Harry, 6 a gwraig Robin, Tina.

Wil Parry Williams oedd llywydd y noson, a siaradodd cyn-hyfforddwyr gan gynnwys Meic Griffith a Denley Isaac (hyfforddwr Yr Wyddgrug) am 'ymroddiad llwyr' Robin ac o'u pleser wrth weld breuddwydion y chwaraewr yn cael eu gwireddu dros y blynyddoedd.

Dywedodd Robin, 'Mae wastad yn bleser dod yn ôl i Ogledd Cymru ac yn enwedig yma i Borthaethwy. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, mae wedi golygu llawer i mi.' Manylion y llyfr

(01/12/2006)

Cam o'r Tywyllwch - Hunangofiant Rhys Mwyn

O deithio Ewrop gyda'r Anhrefn, cyhoeddi recordiau tanddaearol arloesol gyda Recordiau'r Anhrefn, rheoli degau o fandiau a threfnu cannoedd o gigs, cyfrannodd Rhys Mwyn mwy nag unrhyw un i'r Sîn Roc Gymraeg. Mae'r chwedlau'n frith, ond yn ei hunangofiant Cam o'r Tywyllwch a gyhoeddir gan Y Lolfa y mis hwn, ceir stori Rhys Mwyn yn syth o lygad y ffynnon.

Ef oedd rheolwr cyntaf Catatonia ac ef roddodd y cyfle cyntaf i Gruff Rhys a Dave Datblygu. Ond bu hefyd yn ddraenen barhaus yn ystlys y byd cyfryngol, saff Cymraeg. Bu'n gyson feirniadol o S4C a Radio Cymru, a thra oedd yntau'n hyrwyddo bandiau Cymraeg ar Radio 1 ac ym mhedwar ban byd pan roedd Radio Cymru yn ei wahardd. Croeso i fywyd heriol, dadleuol ac arloesol Rhys Mwyn.


Dyweda Cerys Matthews,“Fi 'di meddwl erioed bod Rhys yn wallgo'. Yn Svengali yn hytrach na Mickey Mouse. Ond gydag angerdd aruthrol yn ei yrru - a dyw angerdd dros achos da 'rioed wedi bod yn beth gwael.”

Ychwanega Gruff Rhys, “Gydag egni gwyllt, polisi 'straight edge' militant pync Americanaidd, caneuon gwych ei frawd Sion Sebon, Gitar Fâs, briefcase yn llawn cyfeiriadau a rhifau ffôn a'i basbort neidiodd Rhys Mwyn mewn fan cigydd a gyrru'n ddidrugaredd o gwmpas yr hen Ewrop o ffiniau weiran bigog yn creu rhwydwaith gorfforol o gymeriadau o isddiwylliannau gwahanol; pyncs, anarchwyr, rapwyr ac ymgyrchwyr ieithyddol ugain mlynedd cyn myspace.”

“Mae cyn lleied o hanes y byd pop Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi/ddarlledu fel bod pob cenhedlaeth newydd bron yn hollol anwybodus o'r cyfoeth ddaeth o'u blaen. Dyma gyfle i mi gyflwyno'r stori fel digwyddodd hi drwy lygaid yr Anhrefn a Rhys Mwyn – y gwir yn ôl Rhys Mwyn. Fel dywedodd y Manic Street Preachers: “This is my truth…” meddai Rhys.



Croeso i chi ddod i'r lansiadau yn:

Nos Iau Tachwedd 23 6-8pm
Clwb Nos Medi
Caernarfon
Rhys mwyn i ddarllen ac arwyddo
+ cerddoriaeth byw

Nos Wener Tachwedd 24 6-8pm
Y Drwm
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Rhys mwyn i ddarllen ac arwyddo
+ cerddoriaeth byw Stori lawn    Manylion y llyfr

(20/11/2006)

“Brithyll” yn corddi dyfroedd tawel llenyddiaeth Gymraeg

Ar nos Iau Tachwedd y 9fed yn y Ring Llanfrothen lansiwyd Brithyll, nofel gyntaf Dewi Prysor. Mae Brithyll yn gomedi dywyll, amharchus ac afreolus am gymeriadau brith sy'n byw mewn pentre dychmygol yng Ngogledd Meirionydd. Gobaith yr awdur yw y bydd y llyfr yn apelio at y math o bobl sy'n cael eu darlunio yn y llyfr, sef pobl werinol wrthryfelgar sy'n byw ar ymylon cymdeithas - yn yfed, yn smocio dop ac yn anwybyddu'r gyfraith.
Dywedodd Dewi Prysor,
“Mae angen torri yn rhydd o'r arfer diogel o sgwennu at leiafrif diwylliedig a'u Cymraeg safonol a'u parchusrwydd cartrefol eisteddfodol. Rhaid i lenyddiaeth Gymraeg fod yn berthnasol i arferion Cymry Cymraeg heddiw. Dwi'n gobeithio fy mod wrth ysgrifennu Brithyll wedi adlewyrchu beth yw gwir natur bywyd, arferion a hiwmor cymdeithas gyfoes Gymraeg gan dorri ffiniau ffug-barchusrwydd.”
Mae Brithyll yn nofel sy'n gynhenid Gymreig yn ei hiaith a'i hiwmor yn yr un modd â'r gomedi deledu Cymon Midffild, ac mae eisoes wedi derbyn sêl bendith Twm Miall, awdur arloesol arall o'r un ardal, ac awdur sydd wedi dylanwadu ar Dewi Prysor.
Dywedodd, “Dyma nofel fendigedig o ddi-chwaeth a dyma fro'r chwareli fel nas gwelwyd hi erioed o'r blaen. Mae Prysor yn awdur newydd, grymus sy'n mynd i gorddi dyfroedd tawel llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd i ddod. Melys moes mwy.”
Mae Dewi Prysor, sy'n byw yn Llan Ffestiniog gyda'i deulu, eisoes wedi rhyddhau casgliad o limrigau, a perfformiwyd hanes ei gyfnod yn y carchar gan Lwyfan Gogledd Cymru. Mae darllenwyr Llafar Bro a Seren yn gyfarwydd â'i golofnau heriol a dyma'r tro cyntaf iddo fynd ati i ysgrifennu ffuglen. Mae Brithyll, sy'n nofel swmpus bron i dri chan tudalen, ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru am £7.95. Stori lawn    Manylion y llyfr

(10/11/2006)

Cofio Bardd y Coleg a'r Coler

Ar nos Iau 2 Tachwedd cynhalwyd noson i gofio'r darlithydd a'r offeiriad nodedig, Dafydd Marks. Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni criw o'i gyfeillion yn yr Hen Neuadd, Coleg Dewi Sant, Llanbed. Fe apwyntiwyd Dafydd Marks yn ddarlithydd yn adran Y Gymraeg yno yn 1956 a bu cenhedlaeth o fyfyrwyr yn drwm yn ei ddyled – fe'i perchid yn fawr gan bawb yn ddiwahân hyd ei farwolaeth yn 1999.

Roedd yn Gristion gloyw, yn wr dysgedig ac yn gwmnïwr diddan, ond nid pawb oedd yn ymwybodol ei fod hefyd yn fardd dawnus, ac yn ystod y noson lansiwyd cyfrol newydd o'r enw Cerddi'r Coleg a'r Coler a baratowyd drwy ofal ei fab, Richard Marks.

Mae'r casgliad yn cynnwys detholiad o waith personol a chrefyddol – pigion o'i waith creadigol a ysgrifennwyd dros hanner canrif ac hefyd yn cynnwys dwy ysgrif a ysgrifennwyd ganddo yn niwedd yr 1940au.

Ar ol gadael Coleg yr Iesu, Rhydychen bu'n Offeiriad ym mhlwyfi Llandeilo, Llangathen a Llanddewi-y-crwys. Ym 1956 fe'i hapwyntiwyd yn bennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan ac yn Llanbed y treuliodd weddill ei fywyd.

Yn y llun mae ei fab Richard Marks yn dal copi o'r gyfrol. Manylion y llyfr

(03/11/2006)

Y Calan Gaeaf mwya brawychus erioed i blant Cymru...

Ar gyfer dathliadau Calan gaeaf eleni, cyhoeddir yr hyn a ddisgrifiwyd fel y llyfr Cymraeg mwya brawychus erioed i blant gan yr awdur a'r arlunydd o Dalybont Morgan Tomos.

Mae'r gyfrol Ar Noson Calan Gaeaf Oer yn cynnwys cymeriadau sy'n ddigon i ddeffro'r meirw – ac un o'r meirw byw yw un o gymeriadau'r stori, sef Sombie, sy'n ysu i fwyta cnawd amrwd ac “ymennydd plentyn ar ei frechdan”. Y cymeriadau eraill yw Draciwla sy'n awchu am waed, a'r Wrach sydd am gael plentyn fewn i'w chrochan. Yn ôl yr awdur: “Mae llyfrau brawychus yn dod yn fwy poblogaidd y dyddiau hyn, ac er y bydd sawl un yn synnu at y miri dieflig, dwi'n siwr y bydd yn boblogaidd iawn gan blant ar drothwy noson calan gaeaf.…”

Cyhoeddir Ar Noson Calan Gaeaf Oer gan Y Lolfa – mae'n llyfr hollol wreiddiol gyda chelf a cherddi trawiadol yr awdur Morgan Tomos sydd hefyd yn gweithio fel Rheolwr Gwerthiant yn Y Lolfa. Mae Morgan yn adnabyddus fel awdur ac arlunydd cyfres Alun yr Arth sydd wedi datblygu'n eithriadol boblogaidd yn ddiweddar, gyda'r chweched gyfrol yn y gyfres yn cael ei chyhoeddi ar gyfer y Nadolig.

Lansiwyd y gyfrol yn Ysgol Gymunedol Talybont. Yn ystod y lansiad cynhaliodd Morgan weithdy gwneud masgiau a modelau clai. Yn y llun mae Morgan yn dal copi o Ar Noson Calan Gaeaf Oer, ac mae Richard Bailey, un o ddisgyblion yr ysgol yn dal model glai a gafodd ei greu ganddo yn y Lansiad. Manylion y llyfr

(19/10/2006)

Gwen Davies yn ymuno â’r Lolfa

Mae'r Lolfa newydd benodi Gwen Davies o Aberystwyth fel golygydd Saesneg newydd y Wasg. Mae gan Gwen brofiad helaeth o weithio yn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Bu yn Swyddog Llenyddiaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yn gyd-olygydd Planet ac yn olygydd gyda Parthian cyn ymuno â gwasg Y Lolfa. Yn ogystal â datblygu rhestr ffeithiol Y Lolfa bydd yn cychwyn gwasgnod newydd o'r enw Alcemi fydd yn canolbwyntio ar ffuglen safonol Gymreig.
Dywedodd Gwen,
“ Edrychaf ymlaen at ddatblygu awduron newydd a phrofiadol er mwyn cyhoeddi ffuglen fydd yn creu argraff yng Nghymru a thu hwnt. Rwyf yn chwilio am fynegiant hyderus mewn llais cyfoes, yn ogystal ag amrywiaeth o ran pwnc, lleoliad ac arddull.”
Mae gan Y Lolfa enw eisoes am gyhoeddi ffuglen mentrus a phoblogaidd yn Gymraeg ac mae Garmon Gruffudd, rheolwr y wasg yn hyderus y bydd Gwen Davies yn denu nofelwyr o Gymru sy'n ysgrifennu yn Saesneg i gyhoeddi gyda'r wasg.
Dywedodd,
“Mae hon yn swydd newydd, a chyda thros ugain yn ymgeisio amdani, rydym yn falch iawn o groesawu golygydd o galibr Gwen i'r Lolfa. Mae ganddi brofiad a gwybodaeth eang a syniadau cyffrous ar gyfer datblygu rhestr Saesneg y cwmni.”
Os am gyflwyno syniad neu deipysgrif gellir cysylltu â Gwen ar e-bost – gwen@ylolfa.com neu drwy ysgrifennu at Gwen Davies, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion SY24 5AP.

Llyfre'r Gaeaf i Oedolion(0.7MB)

Llais Llyfre'r Lolfa 2006(2.1MB)

(16/10/2006)

Lansio Hi Oedd Fy Ffrind

Ar nos Iau 28ain o Fedi lansiwyd nofel newydd gan Bethan Gwanas. Mae'r nofel Hi Oedd fy Ffrind yn ddilyniant i Hi Yw Fy Ffrind a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ol - un o'r tri olaf yn Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2005.

Bywyd coleg dwy ffrind yw canolbwynt y nofel newydd, gyda'r rhan fwyaf wedi ei leoli yn Aberystwyth a Neuadd Pantycelyn. Cyfaddefodd Bethan yn y lansiad i lawer o'r deunydd yn y nofel gael ei seilio ar ei phrofiadau hi a'i ffrindiau yno yng nghanol yr 80au: “Ges i lot o help gan fy ffrindiau ac o fy nyddiaduron coleg ar gyfer y nofel, ac mae llawer o'r digwyddiadau wedi eu seilio ar ddigwyddiadau go iawn – ond dwi heb seilio Nia (y prif gymeriad) ar unrhyw berson yn benodol.”

Yn y lansiad ym mwyty'r Sosban yn Nolgellau mi oedd criw ffrindiau coleg Bethan yn mwynhau'r gwin, y gwmniaeth a'r darlleniadau, ac un o'r ffrindiau hynny a astudiodd yn Aberystwyth fu'n darllen pytiau o'r nofel ar y noson, sef yr actores Rhian Cadwaladr. Stori lawn    Manylion y llyfr

(04/10/2006)

Storïau a Hiwmor Pobl Gyffredin

Er mor bwysig yw traddodiad y stori fer yng Nghymru prin fu'r cyfrolau o storiau poblogaidd i'w cyhoeddi yn y Gymraeg yn ddiweddar, a gwêl awdur casgliad newydd o sorïau, Daniel Davies, yr angen i roi hwb i'r ffurf yma o sgwennu: “Bu storïau yn rhan ganolog o'n llenyddiaeth, o'r traddodiad gwerin i Kate Roberts, ac mae'n biti fod llai o statws a gwerth yn cael eu rhoi iddyn nhw dyddie ma – prin yw'r casgliadau o storïau byrion sydd wedi gweld gole dydd yn ddiweddar.”


Mae'r storïau yng nghyfrol newydd Daniel Davies, Twist Ar 20 wedi eu lleoli yng nghefn gwlad Ceredigion yn bennaf ac wedi eu hysgrifennu am bob math o bynciau, yn cynnwys cariad, dartiau, llygredd a rhagrith – yn storïau poblogaidd, llawn hiwmor, dychan a chymeradau difyr. Pobl gyffredin yw'r cymeriadau'n bennaf, pobl gobeithiol llawn hwyl, sy'n fodlon cymryd siawns mewn bywyd – sy'n esbonio'r teitl. Nid doeth yw galw 'Twist' ar ugain wrth chwarae Pontoon, ond dyna'r math o bobl sy'n diddori'r awdur. Mae'r gyfrol yn llawn hwyl, trafferthion carwriaethol ac argyfyngau bach (sy'n troi'n argyfyngau mawr), gan roi golwg wahanol a difyr o'r natur ddynol. Mae na chwarddiadau ym mhob stori, boed am 'Hel Mecryll', 'Starsky a Hutch', 'Gyrfa Chwist' neu 'Turkey Darts'.

Stori o'r llyfr

Llais Llyfre'r Lolfa 2006(2.1MB) Manylion y llyfr

(06/09/2006)

Eisteddfod Gofiadwy Fflur Dafydd

Wedi cyfnod eithriadol o brysur yn ysgrifennu a chyfansoddi, daeth clod i'r awdures Fflur Dafydd yn Eisteddfod Abertawe a'r Cylch eleni wrth iddi ennill y Fedal Ryddiaith. Cafodd ei nofel, Atyniad, ganmoliaeth uchel gan y beirniaid a ddisgrifiodd Fflur fel “gwir artist y gystadleuaeth”. Daeth yr anrhydedd hwn i Fflur yn dilyn blwyddyn eithriadol o gynhyrchiol a llwyddiannus. Yn gynharach yn y flwyddyn cafodd ei phenodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe a llynedd cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Lliwiau Liw Nos a'i Cd gyntaf, Coch am Weddill fy Oes.
Ond ennill y wobr heb amheuaeth oedd uchafbwynt y flwyddyn yn ôl Fflur: “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn, ac mi oedd ennill y Fedal yn uchafbwynt i gyfnod o bedair blynedd o feddwl a chynllunio. Dwi'n gobeithio y bydd y nofel hefyd yn rhoi sylw teilwng i Ynys Enlli, a ysbrydolodd y gwaith.”
Bu'r Eisteddfod ei hun yn gyfnod eithriadol brysur i Fflur fel cerddor yn ogystal â llenor a bu'n perfformio gyda'i band (Fflur Dafydd a'r Barf) naw o weithiau yn ystod yr wythnos. Ond er yn flinedig ar ôl yr Eisteddfod mae Fflur Dafydd yn edrych ymlaen at y dyfodol: “Dwi yn gweithio ar sawl peth ar hyn o bryd, yn cynnwys nofel arall yr ydw i'n gobeithio ei chyhoeddi flwyddyn nesa.”
Disgrifiwyd y nofel Atyniad gan un o'r beirniaid, Jane Aaron, fel “cyfanwaith bywiog ac apelgar a fydd yn profi'n atyniad i gynulleidfa eang…”, a dywedodd Derec Llwyd Morgan: “Dyma awdur a rydd gryn ddiddanwch llenyddol i bawb a gâr rialtwch a digrifwch bywyd rhwng dau glawr.”

Sampl o Atyniad

Llais Llyfre'r Lolfa 2006(2.1MB)

Cliciwch Stori Lawn am ragor o luniau o Steddfod Abertawe Stori lawn    Manylion y llyfr

(06/09/2006)

Darlun Oesol o Gefn Gwlad Cymru

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfrol Cymru Geoff Charles a gyhoeddwyd yn 2004 bydd Y Lolfa ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi cyfres o lyfrau newydd o gasgliad nodedig un o brif ffotograffwyr Cymru'r 20fed ganrif – Geoff Charles. Dyma un o gasgliadau pwysica'r Llyfrgell Genedlaethol, sy'n cynnwys 120,000 o ffotograffau, a phenderfynwyd y byddai'r gyfrol gyntaf yn dilyn thema cefn gwlad, ac yn ôl yr awdur doedd ganddo ddim amheuaeth mai dyma'r maes ddylai gael y sylw gyntaf yn y gyfres: “Cynulleidfa wledig yn bennaf oedd i gyhoeddiadau fel y Montgomeryshire Express, y Border Counties Advertizer a'r Cymro, heb sôn am y wasg amaethyddol y bu'n ei gwasanaethu. Ond roedd ei ddiddordeb ym mywyd cefn gwlad yn dipyn dyfnach nag anghenion ei swydd. Yno, rywsut, yr oedd ei galon, er mai mewn trefi y bu'n byw am y rhan fwyaf o'i oes. Byddai wrth ei fodd yng nghwmni ffermwyr a gwladwyr, heb erioed fod yn un ohonyn nhw: yn perthyn yn ddigon agos i ddeall a chydymdeimlo, ond eto'n gallu edrych oddi allan ac adnabod rhyfeddod a hynodrwydd.”

Roedd y gyfrol Cymru Geoff Charles yn cynnwys cryn dipyn o luniau o gefn gwlad Cymru, a datblygodd i fod yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd 2004 gan werthu dros 2,000 o gopïau. Bydd y gyfrol newydd o'r enw Cefn Gwlad Geoff Charles yn dilyn yr un patrwm ond yn manylu mwy am gefndir y lluniau, a'r stori a roddodd fodolaeth iddyn nhw. Bydd y gyfrol yn ddogfen hanesyddol bwysig ac yn cofnodi ffordd o fyw sydd wedi ei drawsnewid dros y degawdau diwethaf. Nid yw'n syndod fod yr awdur Ioan Roberts yn dyfynnu geiriau perthnasol Henri Caretier-Bresson ar ddechrau'r gyfrol: “Yr ydym ni ffotograffwyr yn delio gyda phethau sydd wastad yn diflannu, ac ar ôl iddynt ddiflannu, nid oes yr un ddyfais ar y ddaear a all wneud iddynt ddod yn ôl.” Stori lawn    Manylion y llyfr

(25/07/2006)

Poblogrwydd y Mabinogi

Tua saith can mlynedd yn ôl fe ysgrifennwyd chwedlau'r Mabinogi am y tro cyntaf, chwedlau hynafol a fu'n cael eu hadrodd am ganrifoedd cyn hynny yn hen lysoedd ein cenedl.

Yn awr yn dilyn argraffiad newydd o ddiweddariad y Bardd Cenedlaethol Gwyn Thomas, wedi ei ddarlunio gan Margaret Jones, gellir mwynhau eto bedair cainc y Mabinogi, trysor Cymreig sy'n cael eu hystyried yn rai o chwedlau mawr y byd.

Cyhoeddir yr argraffiad newydd llawn lliw hardd hwn, Y Mabinogi, gan Y Lolfa a hynny'n dilyn dros ddeng mlynedd o fod allan o brint. Mae'r fersiwn Saesneg, The Tales of the Mabinogion yn ymddangos law yn llaw â hi.

“I blant y cyhoeddwyd y llyfrau'n wreiddiol,” meddai Mared Roberts o'r Lolfa, “ond rydw i'n credu eu bod nhw'n gyfrolau y mae oedolion yn mynd i'w mwynhau'n ogystal oherwydd arlunwaith cain a thrawiadol Margaret Jones. Hefyd mae swyn a naws y testun gwreiddiol wedi ei gynnal yn arbennig gan Gwyn Thomas yn ei addasiad er ei fod hefyd yn addasiad darllenadwy a dealladwy.”

Margaret Jones yw un o arlunwyr amlycaf Cymru. Mae hi'n byw yng Nghapel Bangor ger Aberystwyth. Daw'r Athro Gwyn Thomas o Flaenau Ffestiniog ond mae'n byw ym Mangor ers blynyddoedd ac yn gyn bennaeth y Gymraeg yn y Brifysgol yno. Y mae'n fardd yn ogystal â bod yn awdur ac ysgolhaig a phenodwyd ef yn Fardd Cenedlaethol Cymru am eleni yn ddiweddar. Mae Margaret ac yntau wedi cydweithio ar sawl llyfr i blant gan ennill gwobr Tir na n-Og fwy nac unwaith. Manylion y llyfr

(21/07/2006)

Rhys yn Cipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Mewn seremoni rwysgfawr yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd cyflwynodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan siec o £10,000 i'r awdur Rhys Evans am ei gofiant Gwynfor: Rhag Pob Brad a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2006.

Beirniaid y wobr oedd Catrin Beard, Elan Closs Stephens a'r Prifardd Ieuan Wyn. Meddai Catrin Beard ar ran y tri beirniad:

“Camp Rhys Evans yw ei fod wedi cyflwyno astudiaeth ddeallus a threiddgar mewn cyfrol ddarllenadwy a hygyrch. Mae'r arddull newyddiadurol yn gyson a chlir; does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae'n tynnu'r darllenydd i mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeingef ganrif.”

Ganed Rhys Evans yng Nghaerfyrddin, fe'i magwyd yn Aberystwyth ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth a Choleg Hertford, Rhydychen. Ers dros ddegawd, mae'n gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru. Ei gofiant ar fywyd y gwleidydd Gwynfor Evans, Gwynfor: Rhag Pob Brad, yw ei gyfrol gyntaf. Stori lawn    Manylion y llyfr

(12/07/2006)

Datgelu Gorseddau ym Mafaria, Catalunya a Taiwan

Mewn cyfrol newydd gan gyn-archdderwydd Cymru, Robyn Léwis, datgelir y bu gorseddau o bedwar ban byd mewn cysylltiad â'r Orsedd yn ystod y pum mlynedd diwethaf er mwyn rhannu o'u profiadau a gwahodd gorseddigion Cymru i weithgareddau mewn amryw o wledydd.

Yn y gyfrol a elwir yn A Fu Heddwch?, cyhoeddir yr ohebiaeth ddifyr oddi wrth ddarpar dderwyddon rhyngwladol megis Iorwerth Fain ap Ieuan (Gorsedd Bafaria), Elfed ap Gethin Llwyd (Gorsedd Catalunya) a Curig Xangun Prydderch (Gorsedd Taiwan). Yn yr ohebiaeth i Robyn Léwis ceisiodd cynrychiolydd Taiwan hyd yn oed drefnu cyfarfod gyda gorseddigion Cymru yn Kabul neu Bagdad, ond ni ddaeth dim o'r ymdrechion i ymestyn Gorsedd Beirdd Ynys Prydain tu hwnt i Gymru, er mawr siom i'r llythyrwyr a edmygai Robin Lewis fel 'Syr Robin, Pontiff Gorseddau'r Byd'.

Yn y llyfr A Fu Heddwch? mae'r awdur yn cyfadde nad yw'n siwr pwy oedd tu ôl i'r llythyrau dychanol a anfonwyd o bob man, ond mae'n cyfadde fod y person yn ddychanwr ac yn sgwennwr penigamp a bod eu cyhoeddi yn ei gyfrol yn fodd i bawb gael chwerthin rywfaint ar y Sefydliad Archdderwyddawl: “Roeddwn yn credu unwaith mai'r arch-dynnwr coes Eirug Wyn oedd yn gyfrifol, ond erbyn hyn rwyf hefyd yn ystyried y posibilrwydd mai'r Prifardd Twm Morys fu wrthi, ond rhaid cyfadde fod y cyfan dal i fod yn rhywfaint o ddirgelwch.”

Yn ogystal â storïau dychanol, ceir pob math o anecdotau a ffeithiau difyr am eisteddfodau a gorseddau'r gorffennol yn y gyfrol A Fu Heddwch? Ceir hefyd ddegau o gartwnau a lluniau i ddarlunio hanes dau o sefydliadau rhyfeddaf ein cenedl Manylion y llyfr

(03/07/2006)

Alwyn Humphreys yn Datgelu ei Ddyled i Lawfeddyg

Wrth lansio ei hunangofiant, manteisiodd y cyflwynydd a'r arweinydd corau adnabyddus Alwyn Humphreys ar y cyfle i ddiolch i'r llawfeddyg John Miles am achub ei fywyd. Dri deg mlynedd yn ôl cafodd Alwyn Humphreys ei daro gyda'r math gwaethaf o waedlif ar yr ymennydd ac oni bai am fedr y llawfeddyg yn Ysbyty Walton mae'n annhebyg y byddai wedi goroesi. Dywedodd Alwyn Humphreys,
“Mae'r profiad o fod mor agos at farwolaeth yn cael dylanwad aruthrol ar berson. I ddechrau, ar ôl i mi wella, mi wnes i feddwl am bob dydd, bob wythnos, a phob mis fel bonws - rhyw estyniad o'r bywyd roeddwn i wedi gael hyd hynny. Hefyd mae'n debyg bod llawdriniaeth ar yr ymennydd yn gallu newid personoliaeth rhywun ac rwy'n ceisio dadansoddi hyn yn y llyfr.”
Yn y gyfrol, yn ogystal â thrafod ei fywyd personol a'i iechyd, mae'r awdur yn sôn am ei deulu a'i fagwraeth yn Sir Fôn, ei gyfnod yn y coleg yn Hull a'i yrfa fel cyflwynydd. Mae ei gyfnod fel arweinydd Côr Orpheus Treforys hefyd yn cael lle canolog yn y llyfr. Ceir pob math o hanesion ac anecdotau doniol am y côr ac am y cythraul canu Cymreig ac mae'n mynegi ei farn yn ddi-flewyn-ar-dafod am y byd cyfryngol a chorawl Cymreig. Un peth sy'n ei boeni yw bod y traddodiad canu corau meibion yn edwino,
“O safbwynt corau newydd ifanc - corau cymysg gan fwya - mae llawer i lawenhau yn ei gylch. Ond, mae gen i ofn bod y corau meibion yn gwanhau ac yn prinhau. Ac yn union fel y capeli maen nhw'n anfodlon iawn i uno hyd yn oed pan fo'u nifer yn isel iawn.”
Er bod Alwyn Humphreys yn cyfadde taw dyma'r tro cyntaf iddo fynd ati i sgwennu unrhyw beth gwerth sôn amdano, mae hon yn gyfrol hynod o ddarllenadwy sy'n cyflwyno cymeriad amlochrog un o ffigyrau cyhoeddus amlycaf Cymru. Heb amheuaeth mae gan ddilynwyr lluosog Côr Orpheus Treforys, gwrandawyr Radio Cymru a gwylwyr S4C lawer i'w ddiolch i'r llawfeddyg John Miles.
Lansiwyd Alwyn Humphreys yr Hunangofiant yn nhafarn Y Mochyn Du yng Nghaerdydd ac yn Neuad Gymuned Bodffordd. Stori lawn    Manylion y llyfr

(27/06/2006)

Bili Ronaldinho Boncyrs

Hwyrach nad oes gan Gymru dîm pêl-droed yn cystadlu yng Nghwpan y Byd, ond mae un o'n harwyr bach llenyddol ni'n gwneud ei orau dros y gêm a'i dîm.

Yn y llyfr diweddaraf gan Caryl Lewis a Gary Evans, Bili Boncyrs a'r Gêm Bêl-droed, ceir hanes Bili a'i gampau ar y cae. Mae Bili Boncyrs yn chwarae i'r Gwenyn Gleision yn gêm bêl-droed fawr ola'r tymor – mae hon mor bwysig â ffeinal Cwpan y Byd! Mae'r gwrthwynebwyr, y Concwerwyr Cochion, yn eu crysau coch a gwyn yn bethau mawr a brwnt ac yn chwarae gêm fudr.

“Mae Cwpan y Byd yn ddigwyddiad mor enfawr a chyffrous, mae'n braf cyhoeddi llyfr Cymraeg i blant sy'n ymwneud â phêl-droed yn ystod y cyfnod yma,” meddai Mared Roberts o'r Lolfa, “Mae Bili'n gymeriad poblogaidd iawn gan blant ac mae ei helyntion eraill wedi ennyn ymateb brwd iawn.”

Dyma'r pumed llyfr yn y gyfres boblogaidd sy'n adrodd hanes Bili Boncyrs a'i deulu egsentrig. Awdur y llyfrau yw Caryl Lewis, awdur Llyfr y Flwyddyn 2005, Martha, Jac a Sianco. Mae Caryl yn byw yng Ngoginan yng ngogledd Ceredigion. Ffrind iddi hi yw Gary Evans, arlunydd y llyfrau; dylunydd yw Gary wrth ei waith bob dydd ac mae'n byw ger Aberaeron. Stori lawn    Manylion y llyfr

(16/06/2006)

Lot o Rwdlan!

Lansiodd Y Lolfa dwy eitem ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych – y naill na'r llall ohonynt yn lyfrau…

Mae Lot-o-Rwdlan! sef gêm loto i blant yn seiliedig ar gymeriadau poblogaidd Angharad Tomos o Wlad y Rwla. Meddai Mared Roberts o'r Lolfa, “Gêmau i blant rhwng tua 2 a 6 oed sydd yn y pecyn. Fel bingo i blant ydi loto mewn gwirionedd ac mae tua chwech gêm wahanol y gellir eu chwarae gyda'r pecyn yma – mae'r plant sydd wedi eu chwarae eisoes wrth eu boddau!”

Hefyd mae CD-Rom newydd sbon, Yn Ddistaw Bach, yn y siopau sef fersiwn aml-gyfrwng o stori boblogaidd Angharad Tomos. Llais Mari Gwilym sy'n adrodd y stori ac mae caneuon, jig-sos, posau, gêmau rhifo a llawer mwy ar y CD-Rom. Hon yw'r bumed CD-Rom yn y gyfres sydd wedi eu creu gan gwmni Cynnal o Gaernarfon ac maent wedi cael derbyniad gwresog iawn gan ysgolion. Gellir archebu'r pum CD-Rom am bris gostyngol yma!


Taflen hyrwyddo cyfres Darllen Mewn Dim (2.5MB) Manylion y llyfr

(15/06/2006)

Dyfal Donc - Yr Ateb i Ddysgwyr

Mewn bore coffi yn y Morlan Aberystwyth cafwyd yr ysbrydoliaeth berffaith i unrhyw un sydd am fynd ati i ddysgu Cymraeg – a hynny gan ddysgwraig a aeth ati i ddysgu'r iaith yn ei hwythdegau, ac a lwyddodd i ysgrifennu a chyhoeddi ei llyfr Cymraeg cyntaf o fewn pum mlynedd i ddechrau dysgu.

Hunangofiant yw'r gyfrol Dyfal Donc ac mae'n olrhain bywyd eithriadol ddiddorol a chythryblus Hilda Hunter, a dreuliodd lawer o'i bywyd yn Aberystwyth, ond a fu hefyd yn teithio'r byd yn gwneud cyfraniad mawr i'r byd cerddorol.

Ond yn y flwyddyn 2000 y gwelodd ei ffordd yn glir i astudio'r iaith Gymraeg a chafodd gymorth tiwtoriaid a chyfeillion i wneud hynny - yn cynnwys Nia Rhosier, a ysgrifennodd Ragair i'r gyfrol. Yn ôl Nia: “Y mae ei dyfalbarhad a'i hymroddiad yn esiampl i bawb ohonom ac yn ysbrydoliaeth i bob dysgwr.”

Yn ôl yr awdures roedd dysgu Cymraeg yn freuddwyd a fu yng nghefn ei meddwl ers ei chyfnod yn byw yn Aberystwyth yn y pumdegau: “Myfyriwr gydol oes ydw i. Po fwyaf astudiaf a darganfyddaf, y mwyaf fy nghariad a'm parch tuag at fy nghyfeillion Cymreig, eu mamiaith a'u mamwlad.” Manylion y llyfr

(24/05/2006)

Hanesydd yn Gweld Hyder Newydd yn y Sin Roc

Yn dilyn llwyddiant y gyfrol Be Bop a Lula'r Delyn Aur a ysgrifennwyd gan Hefin Wyn bedair blynedd yn ôl mae'r Lolfa newydd lansio'r dilyniant sef Ble Wyt Ti Rhwng? sy'n dilyn hanes canu pop Cymraeg o 1980 i 2000. Yn y lansiad a oedd yn terfynu gwyl newydd Y Fedwen Lyfrau yng Nghaernarfon, cafwyd sgwrs fywiog rhwng yr awdur Hefin Wyn a Rhys Mwyn un o ffigyrau amlycaf y sin roc dros y degawdau diwethaf. Cafwyd cyfle i drafod rhai o'r themâu a godir yn y llyfr, er enghraifft y duedd ddiweddar i ganu yn Saesneg, perthynas gwleidyddiaeth a chanu poblogaidd a rôl y cyfryngau, ond casgliad yr awdur Hefin Wyn oedd bod