Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

Rhestr o Lyfau'r Haf yma
Lawrlwythwch ein catalog newydd yma
Dyddiadur A5 2009 nawr ar werth

Cyfrol Arbennig i Siaradwyr Wenglish y Cymoedd

Mae'r awdur Robert Lewis newydd gyhoeddi cyfeirlyfr newydd ar gyfer Wenglish, tafodiaith Saesneg y cymoedd. Mae Wenglish: The Dialect of the South Wales Valleys yn cynnwys esboniadau o eiriau fel “cwtch” , “butt”, “jiw” a “come by ere”. Mae'r gyfrol sydd newydd ei ryddhau gan Y Lolfa ar ffurf geiriadur yn cynnwys geirfa yn nhrefn yr wyddor, enghreifftiau o ddeialog, gramadeg, ymarferion yn ogystal â chyflwyniad i gyd-destun cymdeithasol a daearyddol iaith y cymoedd. Bydd y gyfrol yn ddefnyddiol i bobl y cymoedd sydd eisiau dod i wybod mwy am Wenglish yn ogystal ag i bobl sydd am ddysgu neu ddynwared y dafodiaith.
Dywedodd yr awdur Robert Lewis, sy'n siarad deuddeg o ieithoedd, ac yn arbenigwr ar dafodieithoedd,
“Ces fy ngeni a' magi yng Nghwm Tawe gan ddod i gyfarwyddo ag elfennau gorllewinol o Wenglish a'r Wenhwyseg, tafodiaith Cymraeg y de-ddwyrain. Mae'r gyfrol yma wedi bod yn gyfle i gyfuno fy nghefndir gyda fy niddordeb mewn ieithoedd a sut mae pobl yn siarad.”
Datblygodd diddordeb Robert mewn tafodieithoedd wrth astudio ieithoedd modern a chanoloesol yng Nghaergrawnt. Manylion y llyfr

<<< Stori flaenorol     

MWY O NEWYDDION...

Gwrthdrawiadau Diwylliannol yn Ysgogi Nofelydd Newydd

Guto Harri i Arwain Lansiad Cyfrol Gwynfor yn y Gelli

Gwobr Cyfraniad Oes i Elwyn

Awdur yn galw am “Ddileu’r Landsker Bondigrybwyll”

Rhieni’n ysgaru yn ysgogi nofel i’r arddegau

Hen straeon...

cludiant am ddim!

CHWILIO AM DEITL


chwilio manwl
newydd!

Clawr | Cover
Cofio Grav
Keith Davies (gol.)
£5.00 Manylion llawn

Ewch | Go


gwerthwyr gorau

1. Cofio Grav / Keith Davies
2. Annwyl Smotyn Bach / Lleucu Roberts
3. Beti Bwt / Bet Jones
4. Trwy'r Darlun / Manon Steffan Ros