Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl

Y Lolfa


Sefydlwyd Y Lolfa mewn hen warws ym mhentref Talybont – yng nghanol Cymru ac yng nghanol y chwedegau. Roedd yn gyfnod cyffrous o herio a phrotestio, a chenhedlaeth o rebels ifainc yn credu mewn “chwyldro” ac mewn gwthio'r iaith i bob agwedd o fywyd. Ar y pryd, llyfrau dof a diflas yn bennaf oedd ar y silffoedd, ac roedd yn rhan o weledigaeth Y Lolfa i greu math newydd, mentrus o gyhoeddi yn Gymraeg. Aeth ati i gyhoeddi llyfrau, cardiau a phosteri lliwgar a heriol.
Gwaith cynnar

Yn raddol ehangodd y cwmni gan symud, yn 1977, i fyny'r stryd fawr i Hen Swyddfa'r Heddlu. Roedd y gwaith cyhoeddi erbyn hyn yn cynnwys cyfresi arloesol fel Y Llewod, Rwdlan a'r Beirdd Answyddogol. Roedd hefyd wedi dechrau cyhoeddi llyfrau Saesneg i ddysgwyr ac ymwelwyr. Ond blaenoriaeth y cwmni yr adeg honno, fel heddiw, oedd sbarduno creadigrwydd Cymreig a Chymraeg. Y Lolfa yw'r unig wasg sy'n cyhoeddi dim ond llyfrau gwreiddiol gan gefnogi artistiaid ac awduron Cymreig yn hytrach na mewnforio deunydd bland gan gwmniau aml-wladol.

O'r dechrau, fe gofleidiodd y cwmni dechnolegau newydd. Yn y chwe-degau, manteisiodd ar ryddid newydd y dull ffoto-litho o argraffu gan greu gwaith graffig mentrus; yn y nawdegau fe ymdaflodd i'r dechnoleg ddigidol – Y Lolfa oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i gael ei gwefan ei hun. Erbyn hyn mae gan y cwmni weisg argraffu lliw sy'n cynhyrchu llyfrau o safon rhyngwladol – ond yr un peiriannu sy'n cadw cwsmeriaid argraffu'r wasg yn hapus: daw hanner trosiant y cwmni o waith argraffu masnachol.

Porwch trwy'r wefan hon i weld yr amryiwaeth mawr o lyfrau sydd nawr yn llifo o'r wasg. Mae'r weledigaeth sylfaenol yn dal heddiw fel yn y dechrau, sef i gynhyrchu deunydd mentrus a blaengar yn Gymraeg – deunydd a fydd yn herio smygrwydd Corporate Cymru ein dyddiau ni, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Cymru a fydd yn feddyliol a gwleidyddol rydd.



ALT TEXT GOES HERE

Staff Y Lolfa